Dewislen
English
Cysylltwch

Teitl y prosiect: Rydw i’n Rhywun

Cyfranogwyr: Cynhaliwyd y prosiect hwn gyda’r defnyddwyr gwasanaeth Prosiect Datblygu Congo – sy’n gweithio gyda chymunedau amrywiol Abertawe a Caerfyrddin gan gynnwys cymunedau ceiswyr lloches a mewnfudwyr Affricanaidd, Arabeg a Pwyliaid, sy’n profi problemau llesiant yn ystod pandemig Covid-19, a chyn hynny hefyd.

Artist arweiniol: Dominika Rau

Nod y prosiect:

Nod y prosiect oedd rhoi cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaeth gymryd rhan mewn proses greadigol o ysgrifennu a chreu llyfr “Rydw i’n rhywun”, ond hefyd rhoi’r cyfle iddynt ffurfio cyfeillgarwch â’u cyrff gan dysgu sgil newydd ysgrifennu creadigol yn eu ieithoedd brodorol, gan gynnwys Saesneg, Arabeg, Ffrangeg a Phwyleg. Nod y prosiect hwn oedd cefnogi, annog, addysgu sgiliau, a darganfod doniau cymunedol.

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Roedd Rydw i’n Rhywun yn brosiect ysgrifennu ymwybyddiaeth corff a llesiant a oedd yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad y corff o’i weithrediad a’r brosesau amrywiol sy’n digwydd yn ystod argyfwng llesiant.

Pan rydyn ni’n wynebu argyfwng iechyd meddwl mae’n teimlo fel bod y byd wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae ein cyrff yn dal ati ar ben ei gyfrifoldebau, yn gweithio’n galed i ddod â chyflwr iach yn ôl neu’n ein cymell i ofyn am help. Gallai gwerthfawrogi, derbyn, diolch iddo, a gwneud ffrind gorau ag ef, fod yn un o’r technegau mwyaf pwerus yn y frwydr iechyd meddwl a hynny fwyfwy i gleientiaid ar incwm isel, na allant fforddio mynediad at gymorth proffesiynol, sy’n aml yn ei chael hi’n anodd mynegi eu hemosiynau a hynny weithiau trwy gyfrwng iaith arall.

Yn ystod y chwe gweithdy ysgrifennu arlein ar gyfer oedolion a phlant, a thrwy ymgynghoriadau arlein unigol, bu Dominika Rau yn dod â chymunedau a thechnegau ysgrifennu creadigol ynghyd, gan annog cleientiaid i ysgrifennu mewn Saesneg a’u hieithoedd brodorol er mwyn mynegi eu teimladau a chwilio am y rhinweddau unigryw hynny yn eu cyrff, sy’n gymorth i frwydro yn erbyn iechyd meddwl gwael. Cafodd pob un o’r cyfranogwyr gyfle i greu ac arddangos eu gwaith mewn llyfr arbennig o waith y grŵp.

Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn, gan arwain at lyfr 170 tudalen a lansiwyd ar 22 Chwefror 2022 gyda chyfraniadau yn Saesneg, Arabeg, Pwyleg, Sbaeneg, Iseldireg, Swrinameg, Eidaleg a Latfieg.

 

Bywgraffiad artist:

Mae Dominika Rau yn artist amlddisgyblaethol wedi’i lleoli yng Nghymru, ond yn wreiddiol o Wlad Pwyl. Mae ei hymarfer yn cynnwys gair llafar, ysgrifennu dramâu ac adrodd straeon, ond hefyd dawns, actio, meimio ac arferion theatraidd. Graddiodd mewn Celf Perfformio ac Astudiaethau Drama a Theatr o Brifysgol Aberystwyth yn 2016.

Mae Dominika yn un o sylfaenwyr Body Art Therapies – prosiect gwreiddiol sy’n defnyddio therapi tylino chwaraeon a thechnegau derbyn a grymuso corff, wedi’u cymysgu â gwahanol ffurfiau celf, er mwyn cefnogi cleientiaid sy’n agored i niwed, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig a masnachu pobl, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, ond hefyd plant a phobl ifanc.

 

“Rwy’n dod o Wlad Pwyl yn wreiddiol ac mae pwnc mewnfudo ac iechyd meddwl, ac yn fwy diweddar unigrwydd yn oes y pandemig, yn hynod agos i mi. Ar ôl proses hir o adeiladu’r ymddiriedaeth gyda grwpiau cymunedol, rwy’n credu ein bod yn barod i symud y byd gydag emosiynau sy’n dod o’u hieithoedd a’u diwylliannau, gan ddarparu cynnyrch dyrchafol ac ysgogol i bob un ohonom ddarllen a dysgu ohono. Fel awdur rwy’n teimlo bod y prosiect hwn yn gyfle gwych i arddangos fy ngwaith i gynulleidfaoedd ehangach am y tro cyntaf yng Nghymru.”

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron #3