Dewislen
English
Cysylltwch

Gweithdai ysgrifennu creadigol i ffoaduriaid o Syria  

Cyfranogwyr:Ffoaduriaid o Syria ac unigolion o ardal Pontypridd

Enw awdur: Barrie Llewelyn

Lleoliad: Pontypridd, Rhondda Cynon Taf

Gwybodaeth bellach: Bydd y prosiect yn dod â ffoaduriaid o Syria a phobl leol ynghyd i gymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu creadigol. Gan weithio gyda’i gilydd, bydd cyfranogwyr yn arbrofi gydag iaith a chreadigrwydd i gynhyrchu arddangosfa o bosteri, a allai gynnwys barddoniaeth, llên meicro neu ysgrifennu ffeithiol. Bydd y posteri’n cael eu harddangos yn Oriel y Bont, Campws Trefforest Prifysgol De Cymru yn ystod gwanwyn 2020. Caiff recordiadau sain o sgyrsiau rhwng y cyfranogwyr wrth i’r gwaith gael ei greu eu harddangos gyda’r allbwn gweledol yn ogystal. Bydd myfyrwyr o’r Brifysgol sy’n astudio celf weledol hefyd yn ymateb yn greadigol i’r prosiect.

Barrie Llewelyn: Mae Barrie yn awdur straeon byrion a ffeithiol greadigol. Cyhoeddodd ei chyfrol, Gather Gold and other stories yn 2015 gydag Opening Chapter. Y mae wedi golygu sawl cyfrol o straeon byrion.

Mae Barrie yn dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol De Cymru a hefyd wedi gweithio ym maes addysg gymunedol gydag oedolion bregus ac o fewn ysgolion. Y mae wedi cynorthwyo llawer o fyfyrwyr i wireddu eu breuddwyd o gyhoeddi eu gwaith ac mae’n credu’n gryf yng ngrym creadigrwydd i wella ansawdd bywyd grwpiau ac unigolion. Mae wedi cymhwyso fel mentor a hyfforddwr yn ddiweddar (ILM Lefel 7) er mwyn datblygu’r elfen hon ymhellach.

Gair gan Barrie:

“Rhaid cofio bob amser am bŵer arall ysgrifennu – y pŵer i adnabod ein hunain yn dda a’n helpu i ddeall y byd rydym yn byw ynddo. Gall gweithdy ysgrifennu creadigol wella integreiddio trwy ddod â gwahanol sectorau o’r gymuned ynghyd mewn ysbryd dysgu, datblygu a dealltwriaeth.”

Nôl i Ein Prosiectau