Dewislen
English
Cysylltwch

Sesiynau ysgrifennu creadigol i rieni a gofalwyr babanod a fu mewn uned gofal arbennig babanod


Cyfranogwyr
: Rhieni a gofalwyr babanod a fu mewn uned gofal arbennig

Awdur ac artistiaid: Natasha Borton, Kamila Kosior a Wordwox

Lleoliad: Wrecsam

Gwybodaeth bellach: Mae’r bard lleol, Natasha Borton, a roddodd enedigaeth i’w mab bron 12 wythnos yn gynnar, yn cyflawni cyfres o sesiynau ysgrifennu creadigol yn Wrecsam i rieni uned gofal arbennig babanod ysbyty Maelor. Bydd y prosiect yn dod â rhieni gyda phrofiad o ward y newydd-anedig at ei gilydd i archwilio’r profiadau hyn trwy ysgrifennu creadigol. Ochr yn ochr â’r sesiynau, bydd y rhieni’n gweithio â’r ffotograffydd lleol Kamila Kosior. Bydd y delweddau a’r geiriau yn dod ynghyd mewn antholeg a gyhoeddir gan y cyhoeddwyr annibynnol lleol, Wordwox, ac fe’i gwerthir ar ran Cherish – elusen Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Wrecsam Maelor.

Natasha Borton: Mae Natasha yn fardd berfformiwr ac yn hwylusydd celfyddydau cymunedol yn Wrecsam sy’n gweithio gyda

Voicebox Spoken Word i hyrwyddo llenyddiaeth a pherfformiadau yn y gymuned. Mae Natasha, a ddaw o Hightown, wedi bod yn perfformio ac yn hwyluso ysgrifennu creadigol yn Wrecsam a ledled y DU dros y bum mlynedd ddiwethaf, gan gynrychioli Cymru yn y cwmni perfformio barddoniaeth ‘Talking Doorsteps’ gyda Roundhouse London a’r British Arts Council, a chymryd rhan yn ‘#WordsFirst’ gyda Roundhouse London and BBC1Xtra.

Kamila Kosior: Ffotograffydd yw Kamila.

Dyfyniad:         

Gobeithio bydd y flodeugerdd yn ysbrydoli sgwrs rhwng rhieni babanod newydd-anedig a’r gymuned, a bod y sesiynau yn darparu lle diogel i drafod y profiadau hynny yn greadigol. ”

Nôl i Ein Prosiectau