Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn parhau i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru yn 2021

Cyhoeddwyd Iau 4 Chw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru

Mae staff ac aelodau Bwrdd Cyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru yn cyd-sefyll gyda’n holl gyfeillion a’n cydweithwyr yn y sector greadigol a diwylliannol wrth i ni wynebu blwyddyn arall heriol o ohirio a chau drysau. Er bod yna lygedyn o obaith ar y gorwel, gwyddwn hefyd y bydd 2021 yn flwyddyn eithriadol o anodd i nifer, ac y bydd yn cymryd amser i ni gwnnu a gwella.

Caiff ein gwaith ei ddatblygu a’i gyflawni mewn partneriaeth ac eraill, ac rydym yn falch o fod yn rhan o ecosystem o awduron, darllenwyr, sefydliadau celfyddydol, cwmnïau cenedlaethol, amgueddfeydd, digwyddiadau byw, llyfrgelloedd, gwyliau, gweithwyr llawrydd, clybiau ieuenctid, ymgyrchwyr, eiriolwyr cymunedol, a chanolfannau o bob maint ar draws y wlad. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n gilydd trwy rwydweithiau fel Cynghrair Diwylliant Cymru a Beth Nesaf? Cymru er mwyn adeiladu dyfodol mwy gwydn a chydweithredol ar gyfer y sector. Fel nifer o’n cydweithwyr ar draws y sector, byddwn yn parhau i fyfyrio, i ddysgu, ac i ymateb i ymgyrchoedd hollbwysig #BlackLivesMatter a #WeShallNotBeRemoved gan sicrhau ein bod yn dathlu a chynrychioli diwylliant llenyddol Cymru yn ei gyfanrwydd.

Nôl ym mis Mawrth 2020, wrth i argyfwng byd-eang Covid-19 ddechrau ein heffeithio, llwyddom i addasu ein rhaglen a’n gweithgareddau yn gyflym ac ail-gyfeirio ein cyllid a’n cefnogaeth i’r rheiny a oedd yn wynebu’r caledni mwyaf. Er enghraifft, ein cyfres o Waith Comisiwn i Awduron – gyda rhai mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru  – sydd, hyd yn hyn, wedi cyllido 24 o awduron llawrydd i gyflawni adnoddau, gweithdai a gweithgareddau digidol gydag ystod o grwpiau ac unigolion, gan gynnwys gweithdai Geiriau er Gwell Sian Northey; adnoddau Crochan Stori Tamar Eluned Williams; Prosiect 27, archwiliad creadigol o fywyd Connor Allen a phrosiect Dysgwyr yn creu drwy’r Covid Mared Lewis.

Llwyddwyd i wneud hyn gydai chefnogaeth hael ein cyllidwyr, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, gweledigaeth ac arweiniad ein Bwrdd Rheoli, ac angerdd ac ymrwymiad ein tîm bach o staff sydd wedi eu lleoli ar draws Cymru. Gellid darllen rhagor ar ein gwerth a’n heffaith fel sefydliad yn ein adroddiad canol tymor, Creu Gobaith i’r Dyfodol – Yr Achos Dros Rym Llenyddiaeth.

 

Mae ein drws rhithiol ar agor

Bydd eleni yn ein herio ymhellach eto, a bydd y sector creadigol yn parhau i orfod dygymod ac effeithiau’r argyfwng drwy gyflwyno ein camp a’n celfyddyd mewn gofod rhithiol yn hytrach na chynnal digwyddiadau mewn llefydd a pherci llawn pobl. Yn anffodus, bydd drws gwyrddlas eiconig Tŷ Newydd, ein canolfan ysgrifennu yn Llanystumdwy, yn parhau ar gau drwy’r rhan helaeth o’r flwyddyn eleni.

Byddwn yn sicr yn hiraethu am weld ein cyfeillion yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r lluoedd o wyliau celfyddydol a llenyddol ar draws y wlad. Edrychwn ymlaen at eich gweld pan ddaw’r cyfle, ac yn y cyfamser, bydd ein staff yn parhau i gefnogi awduron, ac yn falch o gynnal sgwrs rithiol, cadw cyswllt a thrafod syniadau. Rydym yn croesawu sgyrsiau gyda sefydliadau o bob math sydd â diddordeb gweithio gyda rhai o’r awduron hynod dalentog sydd gyda ni yng Nghymru. Mae ein drws rhithiol dal ar agor!

 

Ein bwriad eleni

Rydym yn ymwybodol iawn o effaith COVID-19 ar ein llesiant ac ar ein hiechyd meddwl, a sut fod y cyfnod hwn wedi cynyddu unigrwydd ac unigedd i lawer. Gall llenyddiaeth, yn ei holl ffurfiau amrywiol, fod o gymorth i ddod a phobl ynghyd ac i roi llais i’r rheiny sydd heb lais yn ystod yr amseroedd anodd hyn. Gwyddwn fod ysgrifennu a darllen creadigol yn gallu bod o fudd i’n llesiant corfforol a meddyliol, ac mae  gweithgareddau creadigol yn cael eu defnyddio’n gyson fel triniaethau ataliol, lliniarol ac iachaol. Nawr, yn fwy nac erioed, dylai llenyddiaeth gael ei ddefnyddio i drin yr ymchwydd mewn salwch meddyliol a chorfforol tymor hir sydd yn cael ei brofi gan weithwyr y Wasaneth Iechyd Gwladol (NHS) a gweithwyr allweddol eraill, cleifion sydd yn gwella, a ffrindiau a theulu sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i’r pandemig.

Gan adeiladu ar ein prosiectau Llên er Lles, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yn y sector iechyd yn ogystal â sefydliadau celfyddydol er mwyn sicrhau ein bod yn llawn fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio llenyddiaeth er mwyn gwella llesiant. Er enghraifft, byddwn yn parhau i gefnogi Gwasanaethau Llyfrgell Conwy a Fflint i ddarparu cynllun Ffrindiau Darllen i rai o bobl hŷn fwyaf bregus eu cymunedau, gan gynnwys nifer sydd wedi eu heffeithio’n ddifrifol gan Covid-19. Rydym hefyd yn gweithio ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru ar ein prosiect Sgwennu ar y Dibyn sydd yn gweithio gyda’r rheiny sydd wedi goroesi camddefnydd sylweddau.

Mae adrodd straeon, ysgrifennu creadigol a gweithgareddau yn ymwneud â darllen yn ddulliau syml, rhad ac effeithiol i ymgysylltu pobl a’i gilydd. Gall awduron weithio o bell gyda grwpiau bregus mewn amryw o sefyllfaoedd, heb yr angen am adnoddau na theclynnau drudfawr. Byddwn yn canolbwyntio ar ragor o hyfforddiant ac ar ddarparu’r gweithlu â’r sgiliau sydd ei hangen i arwain gweithdai ysgrifennu. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda nifer o bartneriaid yn y sector iechyd er mwyn ehangu ar ein gwaith yn y maes hwn.

Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi cyfres bellach o gyfleoedd a chomisiynau ar gyfer awduron, cyfranogwyr a darllenwyr, sy’n cynnwys rhagor o gyrsiau blasu ar-lein dan faner Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Byddwn yn parhau i weithio â’n partneriaid yng Nghymru a thu hwnt er mwyn sicrhau ein bod yn dathlu ein diwylliant llenyddol, a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth agos y tu allan i’r sector greadigol er mwyn defnyddio llenyddiaeth fel llais ar gyfer rheiny nad sydd yn cael eu clywed, ac fel adnodd ar gyfer galluogi ac iachau. Bydd hyn yn cyfrannu at gyflawni ein nod o greu Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau trwy lenyddiaeth. Y fwy nac erioed, nawr yw’r amser am hyn.

Bydd ein cyhoeddiadau nesaf yn cynnwys:

  • Cyhoeddi enwau’r 12 awdur sydd wedi eu dewis ar gyfer ein Cynllun Datblygu Proffesiynol newydd sbon i Awduron o Liw
  • Cynllun nawdd newydd ar gyfer digwyddiadau cymunedol a fydd yn ysbrydoli cynulleidfaoedd creadigol
  • Cyfres o gyrsiau hyfforddiant ar gyfer hwyluswyr, er mwyn cynyddu’r nifer o brosiectau llenyddiaeth ar gyfer iechyd a llesiant mewn cymunedau
  • Rhagor o gyweithiau traws gelfyddydol cyffrous Plethu/Weave mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Genedlaethol Cymru, gan gynnwys ffilmiau byrion wedi eu comisiynu fel rhan o flwyddyn Cymru yn yr Almaen Llywodraeth Cymru
  • Dathlu a chynrychioli llenyddiaeth amrywiol o Gymru mewn partneriaeth â’r British Council a Literaturhaus Stuttgart yn Seminar Llenyddol yr Almaen, fel rhan o Flwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021 Llywodraeth Cymru
  • Galwadau Agored i redeg prosiectau cymunedol a chreu adnoddau dysgu wedi eu hysbrydoli gan syniadau ac athroniaeth Raymond Williams
  • Cyhoeddi beirniaid ac amserlen Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021

 

Cefnogaeth ar gyfer Awduron:

Rydym yn ymwybodol iawn ei bod yn parhau i fod yn adeg bryderus ar gyfer unigolion a chymunedau. Yn ogystal â Chynllun Cymhorthdal Incwm Llywodraeth Prydain, Cefnogaeth Llywodraeth Cymru, neu Cronfa Brys i Awduron Cyngor Celfyddydau Cymru, efallai y bydd y sefydliadau isod yn o ddefnydd:


The Society of Authors

Mae Sefydliad Trwyddedu a Chasglu Awduron (ALCS), y Gronfa Lenyddiaeth Frenhinol (RLF), Sefydliad T S Eliot mewn partneriaeth â PEN Saesnig, ac Amazon UK wedi cyfrannu adnoddau ariannol i greu’r Gronfa Argyfwng Awduron, er mwyn cynorthwyo awduron sydd wedi eu heffeithio’n ariannol gan yr argyfwng iechyd.

Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://www.societyofauthors.org/Grants/contingency-funds

 

Y Gronfa Lenyddiaeth Frenhinol

Mae’r Gronfa Lenyddiaeth Frenhinol yn elusen sydd wedi bod yn cynorthwyo awduron ers 1790. Mae’n rhoddi grantiau a phensiynau ar gyfer awduron mewn trafferth ariannol: www.rlf.org.uk

 

Cyfleoedd yn y Sector

Mae Llenyddiaeth Cymru hefyd yn cadw casgliad o gyfleoedd newydd gan y sector ehangach. Gall y rhain gynnwys preswyliadau, galwadau agored a chyfleoedd cyflogaeth.

Am ragor o wybodaeth, ewch draw i’r dudalen: www.llenyddiaethcymru.org/for-writers/cyfleoedd

 

Cysylltwch â ni:

Mae’n swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd yn aros ar gau am y tro, tra bod ein tîm ymroddgar o staff yn parhau i weithio o adref. Gallwch gysylltu drwy ein e-bost arferol: post@llenyddiaethcymru.org

Am ein cyfleoedd a’n newyddion diweddaraf, ewch i www.llenyddiaethcymru.org neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol:

Twitter: https://twitter.com/LlenCymruhttps://twitter.com/LitWales
Facebook: https://www.facebook.com/LlenCymruLitWales/
Instagram: https://www.instagram.com/llencymru_litwales/