Swyddi Gwag a Chyfleoedd Presennol
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr misol a cadwch olwg ar y dudalen hon ac ar Twitter / Facebook am unrhyw gyfleoedd sy’n codi.
Galwad - Rhestr Cyflenwyr a Ffafrir Llenyddiaeth Cymru
Rydym yn gwahodd unigolion llawrydd neu gwmnïau sy’n darparu gwasanaethau yn y disgyblaethau a’r masnachau canlynol, i wneud cais i gael eu cynnwys yn ein Rhestr Cyflenwyr a Ffafrir:
- Ffotograffwyr – Cymru gyfan
- Fideograffwyr – Cymru gyfan
- Cyfieithwyr (testun/ar y pryd) – Cymru gyfan
- Plymwyr – ger Llanystumdwy, Gwynedd
- Trydanwyr – ger Llanystumdwy, Gwynedd
- Garddwyr – ger Llanystumdwy, Gwynedd
- Glanhawyr – ger Llanystumdwy, Gwynedd
Gallwch wneud cais i gael eich ychwanegu at ein Rhestr o Gyflenwyr a Ffafrir ar unrhyw adeg. Serch hynny, byddwn yn hysbysebu’r cyfle yn gyhoeddus bob 18 mis er mwyn sicrhau ei fod yn aros yn gyfredol. I fynegi diddordeb mewn ymuno â’n Rhestr Cyflenwyr a Ffafrir, y dyddiad cau nesaf yw 6 Tachwedd 2023.
Am ragor o wybodaeth, islwythwch yr alwad isod.