Dewislen
English
Cysylltwch
Hanan Issa yw Bardd Cenedlaethol Cymru 2022-25.

Bydd Hanan, bardd y mae ei “dweud fel rhuban sy’n plethu ieithoedd a diwylliannau,” (Casia Wiliam, 2022) yn ymgymryd â rôl Bardd Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022-25. Mae Hanan yn edrych ymlaen i barhau â gwaith gwych ei rhagflaenwyr yn hyrwyddo Cymru, Cymreictod, a’r Gymraeg y tu allan i ffiniau’r wlad. Mae hi am i bobl adnabod Cymru fel gwlad sy’n llawn creadigrwydd: gwlad beirdd a chantorion sydd â chymaint i’w gynnig i’r celfyddydau.  

Mae’n bleser mawr gennyf groesawu Hanan Issa i rôl Bardd Cenedlaethol Cymru. Bydd hi’n gweithredu fel llysgennad diwylliannol dros Gymru, ac edrychaf ymlaen at glywed ei cherddi a sut y mae’n ymateb i ddigwyddiadau yn ystod ei chyfnod yn y swydd.” 

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Am Hanan Issa:

Mae Hanan yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig o Gaerdydd. Mae ei gweithiau diweddar yn cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts (Burning Eye Books, 2019) a’i chyfraniadau i Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022) a The Mab (Unbound, 2022), ailadroddiad o straeon y Mabinogi i blant. Perfformiwyd ei monolog buddugol ‘With Her Back Straight’ yn Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Roedd hi hefyd yn rhan o ystafell awduron cyfres arloesol Channel 4, We Are Lady Parts, ochr yn ochr â’i dyfeisiwr arobryn, Nida Manzoor. Derbyniodd Hanan gomisiwn 2020 Ffilm Cymru / BBC Wales ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple. Mae ei gwaith wedi’i berfformio a’i gyhoeddi ar blatfformau fel BBC Wales, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza, Poetry Wales, Y Stamp, Wales Arts Review, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council. Cyd-sefydlodd Hanan y noson meic agored Where I’m Coming From yng Nghaerdydd. Roedd hi hefyd yn aelod o’r garfan gyntaf o awduron a gymerodd ran yn rhaglen Llenyddiaeth Cymru, Cynrychioli Cymru, yn 2021.  

“Mae barddoniaeth yn bodoli yn esgyrn y wlad. Mae’r Gymraeg ei hun wedi datblygu law yn llaw â ffurf hynaf y wlad ar farddoniaeth ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i ailddyfeisio ffyrdd o ymgysylltu’n greadigol â thraddodiadau a hanes Cymru. Yn ogystal, mae barddoniaeth yn fy helpu i wneud synnwyr o’r byd ac rwyf am rannu’r cysur a’r eglurder y gall ei roi ar adegau o ansicrwydd.

Yn fwy na dim, dwi am ddal diddordeb ac ysbrydoliaeth pobl fel eu bod yn gweld eu hunain mewn barddoniaeth o Gymru gan annog ymdeimlad llawer mwy agored o beth yw Cymreictod. 

Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru

Nôl i Bardd Cenedlaethol Cymru