Dewislen
English
Cysylltwch

Cymru ar y Map

 

I Elin Meek a Valériane Leblond

 

Haws na dim yw cwyno am system ac am drefn
Pa le mae hanes Cymru? A drechwyd ni drachefn?

Sut bydd ein plant yn gwybod am Lywelyn a Glyndŵr
heb ddysgu hyn mewn ysgol? Mae angen codi stŵr!

Ond dwy aeth ati’n ddyfal i lenwi’r gwagle hwn
gan nodi holl hanesion ein Cymru fach yn grwn.

Mewn deuawd llun a geiriau daw’r cwbl oll yn fyw
gan sboncio o’r dudalen a llenwi’n byd â lliw.

Clywch! Sgrech dylluan glustiog! A brêf yr hen oen bach.
Edrychwch! Mwng y cob Cymreig ac afal Enlli iach.

T Llew, Syr Tom a’r Manics, Yr Urdd a bandiau pres,
Hedd Wyn a Kizzy Crawford pob un â’i gân yn wres.

Barti ddu a Myddfai, pob afon a phob nant,
mae’r cwbl yn y ddeuawd yn canu’n glir i’n plant.

Gareth Bale a’i ddoniau, a Thitw Tomos las,
Jade Jones a’i holl fedalau, mae Cymru oll ar ras!

Do bu dwy yn ddyfal yn gosod rhwng dau glawr
holl wreichion dur ein hanes, ein campau bach a mawr.

Naw wfft i’r gwersi hanes, mae’r cwbl oll fan hyn!
Pob chwedl pob hanesyn, pob sir a phob un llyn.

Fe soniodd bardd o Gymro am ddarllen y map yn iawn,
wel nawr mae’r map yn barod, a’i drysori’n annwyl wnawn.

 

 

Casia Wiliam

 

 

 

Stadiwm y Stori

 

I Manon Steffan Ros

 

Tisio chwarae?
Tisio bod ar fy nhîm i?
Tyd, ffwrdd â ni
tyd i stadiwm y stori
i redeg trwy’r brawddegau
a megsho’r paragraffau
prin dy fo ti’n sylwi
bo ni’n darllen.

Tyd!
Gawn ni fynd gan milltir yr awr
nes bo’n c’lonna ni’n teimlo’n fawr, fawr, fawr
ag ella bydd na ambell
i dwcl brwnt a thro ffadin
a dagra,
ond mi godai di wedyn
a gei di gic o’r smotyn
a…
ti’n gwbod hyn,
reit ar y diwadd,
ar ôl yr atalnod ola’,
y peth na ti’n deimlo?

Dyma sut deimlad ydi curo.

 

 

Casia Wiliam

 

Nôl i Cerddi Comisiwn Bardd Plant Cymru

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru