Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru #3: Y Panel Asesu

Dr Ann Alston
Cadeirydd
Mwy
Lily Dyu
Mwy
Elgan Rhys
Mwy
Alex Wharton
Mwy
Dr Ann Alston
Cadeirydd

Mae Dr Ann Alston yn uwch ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Plant ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste lle mae hi'n dysgu sawl modiwl ar lenyddiaeth plant sy’n dyddio o 1865 i 2020. Yn ogystal ag ysgrifennu sawl erthygl ac ei llyfr, The Family in English Children’s Literature (Routledge, 2008), golygodd ar y cyd dwy gasgliad o erthyglau, Roald Dahl: A Casebook (Palgrave Macmillan, 2012) a Children’s Literature in the Long Nineteenth Century (Routledge 2019). Mae Ann yn angerddol dros lenyddiaeth plant ac yn aml fe’i gwahoddir i ysgolion i siarad â staff a disgyblion am ddarlleniadau dadansoddol o waith ac i’w cynghori am lyfrau newydd. Mae Ann hefyd yn adolygu llyfrau i blant a phobl ifanc ar gyfer Just Imagine, mae hi ar fwrdd golygyddol y cyfnodolyn academaidd Children’s Literature in Education ac mae hi wedi bod digon ffodus i gydweithio â’r cyhoeddwr llyfrau llun a stori annibynnol, Book Island. Cafodd Ann ei geni a’i magu’n Sir Fôn ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i phlant a’i chasgliad eang o lyfrau plant.

Cau
Lily Dyu

Mae Lily Dyu yn byw ym Mhowys ac yn gweithio fel awdur llawrydd. Mae hi'n angerddol dros sicrhau bod pob plentyn yn gallu uniaethu â’r llyfrau y maent yn eu darllen a bod y sector cyhoeddi yn agored i bawb. Mae Lily wedi ysgrifennu pedwar llyfr i blant gan gynnwys Earth Heroes (Nosy Crow, 2019) oedd ar restr fer Gwobr ALCS Educational Writers Award 2020, a Fantastic Female Adventures (Shrine Bell, 2019) oedd ar restr fer Gwobr Rubery 2020. Roedd yn rhan o gwrs egin awduron Rhys Davies (2021) ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi The World’s Wildest Places (DK Children, 2022). Bydd ei llyfr nesaf, The Amazing Power of Activism yn cael ei gyhoeddi blywddyn nesaf (Oxford University Press, 2023). Mae natur yn thema ganolog yn ei gwaith ac mae hi hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr cerdded – Fastpacking: Multi day running adventures (Cicerone Press, 2018) a Brecon Beacons Trail Running (Vertebrate Publishing, 2018).

Cau
Elgan Rhys

Mae Elgan Rhys yn awdur, artist theatr a hwylusydd celfyddydol sy’n dod o Bwllheli ac yn byw yng Nghaerdydd ers degawd. Elgan yw Rheolwr a Golygydd Creadigol cyfres Y Pump (Y Lolfa, 2021) ac awdur Tim (gyda Tomos Jones), nofel gyntaf y gyfres. Y Pump oedd ennillwyr gwobr categori Cymraeg uwchradd yng Ngwobrau Tir na n-Og 2022, Gwobr Plant a Phobl Ifanc a Gwobr Barn y Bobl yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2022. Mae ei waith ar gyfer y theatr yn cynnwys Llyfr Glas Nebo (cyfarwyddwr, 2020), Woof (awdur, 2019), Chwarae (awdur a pherfformiwr, 2019-20) a Mags (awdur, 2018-9), ac mae wedi bod yn artist cyswllt gyda’r Frân Wen a Theatr Iolo. Mae hefyd yn un o Fodelau Rôl Stonewall Cymru, ac mae’n gweithio ar brosiectau newydd ar gyfer theatr, ffilm a theledu ar hyn o bryd.

Cau
Alex Wharton

Mae Alex Wharton awdur a pherfformiwr barddoniaeth arobryn i oedolion a phlant. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf o farddoniaeth i blant Daydreams and Jellybeans restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, The North Somerset Teacher’s Book Award, a chafodd ei enwi fel argymhelliad darllen ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2022.

Mae gwaith Alex wedi’i gyhoeddi’n eang yn y sector ac mae o wedi cydweithio â Llenyddiaeth Cymru, Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Llenyddiaeth Prydain, Llyfrgelloedd Cymru a llawer o ysgolion, ymddiriedolaethau a digwyddiadau llenyddol gan gynnwys Gŵyl y Gelli a Gŵyl lyfrau Ryngwladol Caeredin.

Yn 2021 comisiynwyd Alex gan Ŵyl y Gelli i greu cerdd gyda phlant a fyddai’n cael ei darllen i Dduges Cernyw mewn seremoni a gynhaliwyd yn y Gelli Gandryll. Mi fydd Firefly Press yn cyhoeddi ei ail gasgliad o gerddi Poetry Hill ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei drydydd llyfr i blant.

Cau