Dewislen
English
Cysylltwch
Alex Wharton 

Mae Alex Wharton yn berfformiwr barddoniaeth ac awdur arobryn. Yn 2020, enillodd Wobr Rising Stars Cymru a lansiwyd gan Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press. Daydreams and Jellybeans yw casgliad cyntaf Alex o farddoniaeth, a gyhoeddwyd gan Firefly Press ym mis Ionawr 2021. Cafodd y llyfr ei argymell i’w ddarllen gan Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y North Somerset TeachersBook Award. Mae Alex yn un o 11 o awduron a gydweithiodd ar gyfrol newydd ar y Mabinogion o’r enw Y Mab, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ystod haf 2022 yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yn cyhoeddi ei ail gasgliad o gerddi i blant gyda Firefly Press.

Gwyliwch ymateb creadigol Alex i’w amser ar Cynrychioli Cymru isod:

Nôl i Yr Awduron