Amy Kitcher
Mae Amy Kitcher yn byw yng Nghymoedd de Cymru ac yn rhannu ei hamser yn anghyfartal rhwng ei dwy swydd, ei dau blentyn, a’i dau hangerdd; darllen ac ysgrifennu. Mae hi’n siarad pedair iaith ac mae ganddi radd Meistr mewn rhyfela modern. Dechreuodd ysgrifennu tua’r un amser ag y cafodd ei tharo gan gar pensiynwr ac ysgrifennodd ddrafft cyntaf ei nofel gyntaf mewn tua chwe wythnos, llawer llai o amser nag a gymerodd iddi wella. Cyhoeddir ei cherddi a’i straeon byrion mewn amrywiaeth o gylchgronau a chasgliadau arlein.
Darllenwch ymateb creadigol Amy i’w chyfnod ar raglen Cynrychioli Cymru. (Rhybudd: Iaith gref.) Islwythwch drwy glicio ar y llun isod.