Dewislen
English
Cysylltwch

Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Deg awdur wedi’i dethol i fynychu cwrs digidol

Cyhoeddwyd Iau 23 Tach 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Deg awdur wedi’i dethol i fynychu cwrs digidol
Heddiw, mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enwau y deg awdur a ddewiswyd ar gyfer cwrs ysgrifennu creadigol digidol a gynhelir mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru.

Drwy gynnig cyfres o bum gweithdy ar-lein a sesiynau un-i-un dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol Kaite O’Reilly, mae’r cwrs yn annog yr awduron i herio ystrydebau drwy ystyried trywyddion naratif newydd, prif gymeriadau wedi’u hailddyfeisio, diweddgloeon annisgwyl, ac dulliau arloesol o ysgrifennu.

Roedd y cyfle’n agored i awduron Byddar a/neu Anabl o Gymru sy’n gweithio yn Gymraeg neu Saesneg ar draws amrywiaeth o genres. Yn dilyn yr alwad agored ym mis Awst 2023, dewiswyd y deg ymgeisydd llwyddiannus canlynol:

  • Alix Edwards
  • Greg Glover
  • Bethany Handley
  • Caitlin Tina Jones
  • Fran Kirchholtes
  • Grace Quantock
  • Satterday Shaw
  • Rhys Miles Thomas
  • David Thorpe
  • Sara Louise Wheeler

O Harlech i Sir Fynwy, mae carfan eleni wedi’u lleoli ledled Cymru, ac yn amrywio o ran profiad a genres. Mae eu pynciau o ddiddordeb yn amrywio o archwilio abledd, anhygyrchedd, perthynas unigolyn â byd natur o safbwynt menyw anabl, ffyrdd o gadarnhau lle unigolion anabl o fewn y brif ffrwd ddiwylliannol, cynyddu ymwybyddiaeth o’r ffyrdd amrywiol mae niwroamrywiaeth yn dangos ymhlith merched, ac y croestoriad rhwng y celfyddydau creadigol, cyfiawnder cymdeithasol a chyrff ymylol. Mae’r awduron wedi cwblhau tri o’u pum gweithdy hyd yn hyn ac maent am fynychu eu sesiynau un-i-un gyda’u tiwtor, Kaite O’Reilly ar ddechrau 2024.

Dywedodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: .

“Dyma bleser yw cyhoeddi enwau’r awduron sydd wedi eu dethol ar gyfer y cyfle gwych yma. Rhan mawr o’n gwaith yw meithrin talent a darparu llwyfan i awduron, ac mae’r ffaith fod y cwrs yma’n canolbwyntio ar herio’r stereoteipiau ac adfywio’r naratif yn sicr o arwain at straeon cyfoethocaf i ni’r Cymry. Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen gwaith yr awduron hyn maes o law, ac i weld eu gyrfaoedd yn mynd o nerth i nerth.”

Dywedodd Nye Russell-Thompson, Swyddog Celfyddyadau Perfformiadol a Llenyddiaeth Celfyddydau Anabledd Cymru:

“Mae’n galonogol gweld grŵp mor dalentog o awduron ar wahanol gamau yn eu gyrfa eisiau datblygu eu harbenigedd creadigol a phrofi ystod o genres y tu allan i’w hymarfer ysgrifenedig arferol. Mae Kaite O’Reilly yn berffaith fel arweinydd y cwrs gyda’i llais arweiniol a’i gyrfa enwog fel awdur ac ymgyrchydd hawliau anabledd. Dymunaf bob lwc i’r 10 awdur llwyddiannus!”

Yn dilyn y chwe sesiwn ar-lein, bydd Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru yn parhau i weithio gyda’r awduron drwy hwyluso rhaglen ôl-ofal ysgafn sy’n cynnwys parhau i helpu i feithrin cymuned gefnogol a chyfeirio at gyfleoedd perthnasol.

Mae Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn rhan o arlwy datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru wedi’i ddylunio i helpu awduron i fireinio eu crefft. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys cyrsiau ysgrifennu creadigol ac encilion yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ein Rhaglen Datblygiad Proffesiynol flynyddol Cynrychioli Cymru, a mwy. I ddysgu rhagor am ein cyfleoedd a’n gwasanaethau, ewch draw i’n tudalen Rwy’n Awdur ar ein gwefan.