Dewislen
English
Cysylltwch

Children’s Laureate Wales yn ysbrydoli pobl ifanc Cynyrchiadau UCAN

Cyhoeddwyd Maw 21 Tach 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Children’s Laureate Wales yn ysbrydoli pobl ifanc Cynyrchiadau UCAN
Ar ddechrau mis Tachwedd 2023, cynhaliodd Children’s Laureate Wales , Alex Wharton, weithdai barddoniaeth â aelodau UCAN, elusen celfyddydol sydd yn cael ei redeg gan, ac ar gyfer, plant a phobl ifanc dall neu rhannol ddall.

Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth. Mae’r prosiect wedi ymrwymo i rymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd ac i gynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth.

Yr awdur a’r perfformiwr barddoniaeth, Alex Wharton, sydd yn y rôl ar hyn o bryd, ar ôl dechrau ei gyfnod ym mis Medi 2023. Fel y Children’s Laureate Wales, mae Alex yn gwahodd pobl ifanc i archwilio hud a hwyl geiriau, a phrofi sut gall mynegiant artistig wella’r ffordd yr ydym yn byw, yn teimlo, yn dychmygu, yn creu, ac yn cyfathrebu. Un o’i brif nodau yw i wneud barddoniaeth yn fwy hygyrch.

Mae UCAN yn canolbwyntio ar rymuso plant a phobl ifanc â nam golwg wrth wella unigrwydd, datblygu hyder corfforol a llafar, a dysgu sgiliau newydd a gwella llesiant trwy’r celfyddydau.

Cynhaliwyd y gweithdai yn Sight Life yng Nghaerdydd gyda 16 o blant a phobl ifanc. Gyda chefnogaeth gan dîm staff UCAN, rhoddodd y gweithdai gyfle i’r aelodau archwilio a chreu barddoniaeth, limrigau, rap, a chaneuon.

Yn ôl Jane Latham, Cyfarwyddwr Datblygu UCAN:

‘Mae wedi bod yn gyfle gwych i bobl ifanc Cynyrchiadau UCAN i gymryd ran yng ngweithdai Alex. Roedd pawb wrth eu bodd â’r sesiynau a cawsant hwyl yn creu eu barddoniaeth ei hunain.’

Cynyrchiadau UCAN yw elusen Arglwydd Faer Caerdydd ar gyfer 2023-2024. Ar 19 Rhagfyr 2023 am 7.30 pm, bydd Alex yn gwneud ymddangosiad arbennig yng nghyngerdd UCAN yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Bydd y noson yn arddangos talentau hynod plant a phobl ifanc dall a rhannol ddall UCAN, a ceir rhagor o fanylion ar ein hadran Digwyddiadau.

Mae Alex Wharton wrthi’n brysur gynnal gweithdai a phrosiectau ar draws Cymru fel y Children’s Laureate Wales, a gallwch ganfod mwy am y prosiectau a chyfleodd cydweithio ar dudalen prosiect Children’s Laureate Wales.