Rhaglen mentora unigryw All Stories yn cyhoeddi enwau’r criw cyntaf o awduron

Daw’r criw cyntaf o awuron o amryw o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli, gan gynnwys unigolion o gefndir Du, Asiaidd, neu Leiafrif Ethnig, rhai yn byw gydag anabledd, ac awduron o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol sydd wedi eu hymylu. Mae’r criw yn ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth eang o ddarllenwyr, ac mewn sawl genre, o lyfrau lluniau llawn dychymyg, i lyfrau arswyd ar gyfer oedolion ifanc.
Bydd pob awdur yn cael ei fentora am chwe mis gan olygydd llawrydd profiadol. Byddent oll yn mynychu gweminarau wedi’u curadu’n ofalus gan gynnwys sesiynnau ar y llais, a sesiynnau ar sut i gael mynediad i’r diwydiant fel awdur o gefndir sydd wedi ei dangynrychioli. Yn ogystal, byddent yn derbyn blwyddyn o aelodaeth i SCBWI.
Yr awduron a’u mentoriaid yw:
Melissa Abraham gan Jon Appleton;
Dawn Amesbury gan Jon Appleton;
Tracy Curran gan Natascha Biebow;
Jo Dearden gan Helen Mortimer;
Alison Dunne gan Jenny Glencross;
Hannah Ekekwe gan Genevieve Herr;
Rebecca Ferrier gan Tilda Johnson;
Ikuko Ishiwaki gan Niamh Mulvey;
Suad Kamardeen gan Emma Roberts;
Mitchell Kamen gan Lucy Rogers;
Lily Kerfoot gan Sara Grant;
Reba Khatun gan Kathy Webb;
Tasmia Tahia gan Nicki Marshall;
Thomas Thomasson gan Catherine Coe.