Dewislen
English
Cysylltwch

Enillwyr Ysgoloriaethau i Awduron 2019

Janine Barnett-Phillips

Mae Janine Barnett-Phillips wedi bod yn athrawes Saesneg ers pum mlynedd ar hugain, a hi yw cyfarwyddwr Writers’ Cwtch, sy’n cynnal gweithdai ysgrifennu er llesiant. Hi yw prif diwtor Rewise Learning for Beats Not Blades – prosiect sy’n canolbwyntio ar ysgrifennu caneuon, er mwyn atal troseddau sy’n defnyddio cyllyll fel arfau. Fel rhan o’i Doethuriaeth, mae’n ymchwilio ffuglen ar gyfer oedolion ifainc a’i effaith positif ar lesiant emosiynol. Cyrhaeddodd nofel Janine, Asterix Clementine, restr fer The Times/Chicken House Children’s Fiction Competition ac fe’i cynrychiolir erbyn hyn gan y Blair Partnership Literary Agency. Bydd Ysgoloriaeth Awdur yn ei galluogi i gwblhau The Sunshiners, ei nofel am arddegwyr ag anghenion addysgiadol arbennig.

 

Twitter: @WritersCwtch

Lucy Corbett

Mae Lucy Corbett yn awdur, bardd, perfformiwr a gwneuthurwr ffilmiau sy’n byw yng Nghaerdydd. Dangoswyd ei ffilmiau barddoniaeth a’i ffilmiau byrion mewn gwyliau ffilm yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop, ac mae wedi perfformio mewn cystadleuthau barddoniaeth a gwyliau ffrinj trwy gydol Prydain. Ysgrifennodd Lucy sioe farddoniaeth/theatr ‘Stories About My Weird Friends’ a’i pherfformio fel sioe un person yng Nghymru a Lloegr yn 2015-16. Disgrifiwyd y sioe hon gan feirniaid fel un “telynegol a barddonol” a “doniol iawn”.

 

Mae Lucy yn rhannu straeon, ffilmiau a cherddi ar ei gwefan.

lucycorbettwrites.com  /  Twitter: @lucycorbett

Ailbhe Darcy

Cyrhaeddoddd cyfrol farddoniaeth ddiweddaraf Ailbhe Darcy, Insistence (Bloodaxe Books, 2018), restr fer y T.S. Eliot Prize. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol arall o farddoniaeth, Subcritical Tests (Gorse Editions, 2017) ar y cyd â  S.J. Fowler, ac Imaginary Menagerie (Bloodaxe Books, 2011), a gyrhaeddodd restr fer y DLR-Strong Award. Mae Ailbhe yn byw yng Nghaerdydd, ac mae’n Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Bydd yr Ysgoloriaeth Awdur yn ei galluogi i ymchwilio ac ysgrifennu casgliad o draethodau telynegol, yn dwyn y teitl dros dro Darkening Skies: The work of the poet in the world under threat.

 

Twitter: @AilbheDarcy

Jon Doyle

Mae’r awdur Jon Doyle wrthi’n cwblhau ei Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ymateb cyfredol i ôl-foderniaeth. Mae ei waith wedi ymddangos yn Critique: Studies in Contemporary Fiction, 3AM Magazine, a’r Cardiff Review ymhlith eraill, ac ef yw sylfaenydd a golygydd y wefan gelfyddydol, Various Small Flames.

 

jon-doyle.co.uk  /  Twitter: @Jon_Doyle

Chris Tally Evans

Mae Chris Tally Evans yn artist-berfformiwr, ac yn weithredydd dros hawliau cyfartal. Yn ogystal â darlledu ar BBC 2Wales, BBC Wales, ITV, BBC Radio Wales, BBC Radio 4, a BBC Radio 3, dangoswyd gwaith Chris yng Nghymru, y DU, yr Unol Daleithiau, Canada, Seland Newydd, Qatar, Gwlad Pŵyl a’r Ffindir. Derbyniodd Brif Wobr Cymru Greadigol, a phrif gomisiwn Gŵyl Llundain 2012. Ers dyfod yn anabl yn 1990, mae Chris wedi arbenigo mewn gweithio gyda grwpiau anabl chynhwysol. Nod Chris yw cynnig llwyfan i’r bobl hynny na chlywir eu lleisiau yn aml.

 

christallyevans.com

Jennifer Evans

Magwyd Jennifer Evans ym Mhontypridd, ac fe symudodd i’r Unol Daleithiau yn 2013 er mwyn astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Dartmouth College.

 

Cwblhaodd nofelig ar gyfer ei thraethawd terfynol, ac fe enillodd y Sydney Cox Memorial Prize mewn Ysgrifennu Creadigol. Yn ogystal ag ysgrifennu creadigol, mae wedi creu ffilmiau byrion ar gyfer yr Hopkins Center for the Arts, ysgrifennu nifer o ddramâu byrion, ac wedi perfformio gyda’r Dartmouth College Gospel Choir. Wedi graddio yn 2017, treuliodd flwyddyn yn Los Angeles, yn gweithio i sefydliad hawliau dinesig LGBTQ+. Ar hyn o bryd mae adref yn ei chynefin, ac mae’n bwriadu canolbwyntio ar ysgrifennu.

 

Twitter: @foreignandextra  /  Instagram: @foreignandextra

JL George

Mae Jessica George (ffugenw JL George) yn byw ym Mhontypŵl ac mae’n ysgrifennu ffuglen ryfedd a ffuglen ddyfaliadol. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn blodeugerddi, yn cynnwys Resist Fascism (Crossed Genres) a chyfrol pedwar The Black Room Manuscripts (Sinister Horror Company). Cafodd ei mentora yn y gorffennol, fel rhan o Gynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru. Pan nad yw’n ysgrifennu, mae’n gynorthwy-ydd llyfrgell, ac yn academydd â diddordeb mewn ffuglen ryfedd a’r Gothig.

 

Twitter: @jlgeorgewrites

Jay Griffiths

Jay Griffiths’

Enillodd cyfrol gyntaf Jay Griffiths, Pip Pip: A Sideways Look at Time (Flamingo), wobr Discover am y gwaith ffethiol greadigol newydd gorau a gyhoeddwyd yn yr UDA. Cyrhaeddodd ei hail gyfrol, Wild: An Elemental Journey (Hamish Hamilton), restr fer yr Orwell Prize, ac enillodd wobr World Book Day a’r Orion Book Award 2007. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y Royal Shakespeare Company ac wedi adolygu ar gyfer y Times Literary Supplement, ac fe gyhoeddwyd ei gwaith newyddiadurol yn fyd-eang Ymhlith ei chyfrolau diweddar mae, Kith: The Riddle of the Childscape (Hamish Hamilton), a Tristimania: A Diary of Manic Depression (Hamish Hamilton).

Rhiannon Hooson

Mae Rhiannon Hooson wedi ennill nifer o wobrau ar gyfer ei barddoniaeth, yn cynnwys Eric Gregory Award gan y Society of Authors, ac mae wedi perfformio mewn gwyliau llenyddiaeth trwy Gymru a’r UDA. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn The Guardian, Magma, a Poetry Wales ymhlith eraill. Cyrhaeddoddd ei chyfrol gyntaf

The Other City (Seren, 2016) restr fer Llyfr y Flwyddyn, ac enillodd ei rhyddiaeth wobr

PENfro Festival First Chapter Prize.

 

Erbyn hyn mae’n byw ar y Gororau, wedi treulio cyfnod yn byw a gweithio yn Ulaanbaatar, Mongolia. Mae’n bwriadu treulio ei chyfnod Ysgoloriaeth yn gweithio ar nofel.

rhiannonhooson.com  /  Instagram: @rhiannon.hooson

Mei Mac

Un o Gaernarfon yw Meirion MacIntyre Huws (Mei Mac) ond mae bellach yn byw yng Nghlynnogfawr. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, lle graddiodd mewn Peirianneg Sifil.

 

Yn dilyn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1993 a’r ffaith ei fod yn gartwnydd, newidiodd ei yrfa i fod yn fardd a dylunydd llawn amser.

 

Mei oedd Bardd Plant Cymru yn 2001 ac ers blynyddoedd mae wedi teithio Cymru a gwledydd Ewrop yn trafod ei waith a chynnal gwersi cynganeddu. Bu hefyd yn rhan o griw barddol fu’n teithio Cymru gyda sioeau barddonol. Mae’n aelod o dîm Ymryson Caernarfon.

 

Cyhoeddwyd tri chasgliad o’i waith, Y Llong Wen (Gwasg Carreg Gwalch) yn 1996, Rhedeg Ras Dan Awyr ‘Las (Hughes 2001) a Melyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2004).

Pan nad yw wrth ei ddesg mae’n brysur yn gweithio yn y llety mae ef a’i wraig Karen yn rhedeg, sydd hefyd yn gartref iddynt o’r enw Bryn Eisteddfod (cyd-ddigwyddiad yw’r enw, dyna’r enw ers 1890!). Mae’n dad bedwar o blant, Mabon, Deio, Nanw a Cybi.

Philip Jones

Ganwyd yr awdur a’r cerddor Philip Jones ym Birmingham, treuliodd ei laslencyndod yn Sir Benfro, ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae ganddo radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd, mae’n rhan o raglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, a daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth New Welsh Writing Awards 2015. Rhyddhawyd ei albym cyntaf yn 2017, o dan enw Dusty Cut. Mae ei ysgrifennu yn canolbwyntio ar ein perthynas â’r tirwedd, gwrywdod a theulu.

 

Twitter: @DustyCutPhil  /  Instagram: @DustyCutMusic

Dyfan Lewis

Magwyd Dyfan Lewis yng Nghraig-cefn-parc, Abertawe. Aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg ac mae bellach yn rhannu ei amser rhwng y pentref a’r ddinas. Bwriad Dyfan yw datblygu cyfres o ysgrifau sy’n seiliedig ar daith i Dde-ddwyrain Asia, gan fyfyrio ar ei brofiad yn y gwledydd o dan sylw, a ‘theithio’ fel ffenomen ymhlith ei genhedlaeth.

 

Twitter: @dyfanlewis

Llŷr Gwyn Lewis

Yn wreiddiol o Gaernarfon, astudiodd Llŷr Gwyn Lewis yng Nghaerdydd a Rhydychen cyn cwblhau doethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a W. B. Yeats. Ar ôl cyfnod yn ddarlithydd yn Abertawe a Chaerdydd, mae bellach yn olygydd adnoddau gyda CBAC.

 

Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen ac erthyglau mewn cyfnodolion, gan gynnwys Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Taliesin ac O’r Pedwar Gwynt.

Enillodd Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa, 2014), cyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr, wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol Greadigol yn 2015, a chyrhaeddodd ei gyfrol o farddoniaeth, Storm ar wyneb yr haul (Barddas, 2014) rhestr fer y categori barddoniaeth. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, Fabula, gan Y Lolfa yn 2017. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn yn 2017.

 

Twitter: @llyrgwyn

Llio Maddocks

Yn enedigol o Lan Ffestiniog, mae Llio Maddocks wedi treulio blwyddyn yn teithio drwy Asia gyda’i bacpac. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2014 ac ers hynny mae hi wedi cyhoeddi nifer o straeon byrion mewn cyfrolau megis Galar a Fi a Byd Crwn (Y Lolfa), a Haf o Hyd? (Gwasg y Bwthyn). Addasodd gyfres i blant Mali Awyr (Gwasg Gomer) i’r Gymraeg, a bu’n cyfrannu’n rheolaidd i gylchgrawn Y Stamp. Yn haf 2018, sefydlodd y cylchlythyr Menywod Cŵl Cymru, sy’n cyfweld â menywod ysbrydoledig gwahanol bob mis.

 

Bydd Ysgoloriaeth Awdur yn ei galluogi i ganolbwyntio ar ysgrifennu nofel newydd ar gyfer oedolion ifanc.

Twitter: @llioelain  /  Instagram: @llioelain

 

Lloyd Markham

Ganwyd Lloyd Markham yn Johannesburg, De Affrica, ac fe symudodd i Ben-y-bont ar Ogwr yn dairarddeg oed. Treuliodd ei arddegau yn cael nosweithiau allan gwael a rhyfedd, cyn astudio’n gyntaf am radd BA mewn Ysgrifennu ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn), ac yna MPhil. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Bad Ideas\Chemicals gan Parthian Books yn 2017, a chyrhaeddodd restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018, yn ogystal ag ennill y Betty Trask Award.

Mae’n mwynhau animeiddiadau o Siapan, ac yn chwarae synthesisers mewn band o’r enw Deep Hum. Mae ei nosweithiau allan wedi gwella rywfaint erbyn hyn.

 

Twitter: @lloyd_markham

clare e. potter

Mae’r bardd a pherfformiwr clare e. potter yn cyfarwyddo ei ffilm ddogfen gyntaf ar gyfer BBC It’s My Shout. Treuliodd ddegawd ym Mhellafoedd y De yn yr UDA ac wedi dychwelyd derbyniodd nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer cywaith barddoniaeth/jazz ynglŷn â Chorwynt Katrina. Enillodd y John Tripp Award for Spoken Poetry, bu’n rhan o raglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, ac yn ei sgwrs TEDx yn ddiweddar bu’n myfyrio ar sut cafodd ei hysbrydoli gan ei mamgu. Mae ei phreswyliadau barddoniaeth yn cynnwys y Landmark Trust, Moravian Academy, Pennsylvania, a’r Wales Arts Review.

 

Bydd Ysgoloriaeth Awdur yn galluogi clare i fyfyrio ar ei phrofiad o arsylwi prosesau crefftwyr wrth eu gwaith, a’i chynorthwyo i ganfod ffyrdd newydd o ysgrifennu barddoniaeth, wrth iddi ddatblygu ei chasgliad nesaf.

 

clareawenydd.com  /  Twitter: @clare_potter

Sara Hawys Roberts

Graddiodd Sara Hawys Roberts mewn Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol o Brifysgol Morgannwg yn 2011. Perfformiwyd ei dramâu yn Theatr y Sherman a Chanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Cyhoeddir ei chyfrol gyntaf Withdrawn Traces, gan Penguin, Random House ddechrau 2019; mae’r gyfrol yn olrhain hanes Richey Edwards, aelod coll grŵp y Manic Street Preachers. Mae Sara wrth ei bodd yn treulio amser gyda ei thri ci a’i wyth o gathod, oll wedi eu hachub.

 

Nasia Sarwar-Skuse

Mae Nasia Sarwar-Skuse yn gyfreithiwr ac awdur. Mae’n ddwyieithog ac yn siarad Wrdw a Saesneg, ac mae gweithio gyda geiriau yn rhan gonolog o fynegiant a chreu ei gwaith. Magodd ddiddordeb mewn ysgrifennu creadigol 13 blynedd yn ôl, wedi genedigaeth ei mab. Mae gan Nasia ddiddordeb ym mhresenoldeb dilysrwydd mewn llenyddieth gan leisiau ethnig, a’r modd mae’n gorgyffwrdd alltudiaeth, rhywedd a chof.

 

Mae Nasia wedi dechrau astudio ar gyfer MA mewn Ysgrifennu Creadigol, ac mae’n gweithio ar ei nofel gyntaf. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn galluogi Nasi amser i ymchwilio a chanolbwyntio ar ei hysgrifennu.

 

Mae’n byw yng Nghaerdydd, gyda’i chymar, dau o blant a chath ddu o’r enw Cwtch.

Jo Thomas

Magwyd Jo Thomas ger Caerllion ar Wysg, ac erbyn hyn mae’n byw yn Y Fenni. Ar ôl astudio Saesneg yn Nottingham, bu’n gweithio mewn amryw o swyddi mewn nifer o leoliadau. Yn 2009 penderfynodd wireddu breuddwyd ac astudio ar gyfer MA mewn Ysgrifennu Proffesiynol ym Mhrifysgol Falmouth. Ers hynny, mae Jo wedi gweithio fel ysgrifennwr copi a golygydd llawrydd, ac wedi canolbwyntio ar ysgrifennu creadigol ar gyfer plant. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn bloduegerddi amrywiol, ac mae wedi perfformio yng Ngŵyl Lenyddol Port Eliot. Yn dilyn cyhoeddi ei nofel gyntaf, mae ganddi asiant, a bydd Ysgoloriaeth Awdur yn ei gallugoi i ddatblygu ei hail nofel tra’n edrych ar ôl ei phlentyn ifanc.

 

Twitter: @jotwriting

Marged Tudur

Daw Marged Tudur o Ben Llŷn yn wreiddiol ond bellach mae’n byw yng Nghaernarfon. Graddiodd mewn Cymraeg o Brifysgol Aberystwyth yn 2014 cyn dilyn cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Ar hyn o bryd mae’n ceisio cwblhau traethawd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth ac mae’n gweithio fel golygydd dan hyfforddiant yng Ngwasg y Lolfa.

 

Bydd Ysgoloriaeth Awdur yn ei galluogi i lunio’i chasgliad barddoniaeth cyntaf.

 

 

Twitter: @MargedTudur

Emily Vanderploeg

Mae gan Emily Vanderploeg MA a Doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, ac mae’n dysgu o hirbell ym Mhrifysgol Queen’s yng Nghanada, a gyda Sgwad Sgwennu Awduron Ifanc yn Abertawe. Mae’n rhan o raglen Awduron wrth eu gwaith Gŵyl y Gelli. Cyhoeddwyd ei gwaith yn y DU ac yng Nghanada, a chyrhaeddodd restr fer yr Impress Prize, a rhestr hir cyfres “Primers” The Poetry School ac enillodd wobr Women Poets’ Prize. Yn ddiweddar cwblhaodd gyfrol o farddoniaeth, ac mae’n gweithio ar nofel i arddegwyr. Yn enedigol o Aurora, Ontario, Canada, erbyn hyn mae’n byw yn Abertawe.

 

Twitter: @dippy_dumpling

Georgia Carys Williams

Mae Georgia Carys Williams yn diwtor rhan-amser mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Cyrhaeddoddd ei chasgliad o straeon byrion, Second-hand Rain (Parthian, 2014), restr fer y Sabotage Short Story Award, rhestr hir yr Edge Hill Prize a rhestr hir y Frank O’ Connor International Prize. Daeth yn drydydd yn y Terry Hetherington Award 2012 ac 2014, a derbyniodd gymeradwyaeth uchel yn y

South Wales Short Story Competition. Roedd ei gwaith yn rhan o gyfres map ffuglen Cymru y Wales Arts Review, cyrhaeddodd restr fer cystadleuaeth New Welsh Review Flash in the Pen, ac ymddangosodd ym mlodeugerdd Rarebit (Parthian, 2014). Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf restr hir y Mslexia Novel Competition yn 2018.

 

Twitter: @VeryEglantine