Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddwyr Cymru yn uno i gynrychioli’r sector

Cyhoeddwyd Gwe 21 Mai 2021 - Gan Cynrychioli Cymru
Cyhoeddwyr Cymru yn uno i gynrychioli’r sector
Mae cyhoeddwyr yng Nghymru yn ymuno o dan sefydliad ymbarél newydd i gynrychioli’r sector.

Nod Cyhoeddi Cymru Publishing Wales (CCPW) yw hyrwyddo a datblygu’r diwydiant cyhoeddi o Gymru i’r byd, gan sefydlu hunaniaeth glir ar gyfer y sector. Bydd hefyd yn llwyfan i arddangos ei awduron a’i ddarlunwyr talentog a’i waith cyhoeddi arloesol ar draws pob genre. Bydd y sefydliad newydd yn gweithio’n ddwyieithog, gan gynrychioli’r diwydiannau cyhoeddi Cymraeg a Saesneg eu hiaith a chreu llais cydnabyddedig, awdurdodol ar gyfer cyhoeddi yng Nghymru, gydag agwedd ryngwladol.

Sefydlwyd CCPW gan grŵp craidd o gyhoeddwyr, Gwasg Prifysgol Cymru, Graffeg, Welsh Academic Press, Atebol, Crown House, Y Lolfa, Firefly Press, Honno a Parthian i gydnabod absenoldeb un llais canolog ar gyfer cyhoeddi yng Nghymru. Ac mae bellach yn ymgynghori’n eang â’r holl gyhoeddwyr yng Nghymru ar nodau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Bydd aelodaeth yn agored i gyhoeddwyr cymwys sydd â’u pencadlys yng Nghymru a bydd aelodaeth gyswllt ar gael ar gyfer sefydliadau cysylltiedig.

Mae gan CCPW gefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ei wefan: https://www.cyhoeddi.cymru/

Dywedodd Peter Gill o’r cwmni Graffeg:

‘Sefydlwyd Cyhoeddi Cymru / Publishing Wales gan ystod eang o gyhoeddwyr sy’n adlewyrchu natur amrywiol y diwydiant – o lyfrau plant, ffuglen, barddoniaeth a chelf, i gyhoeddwyr addysgol, academaidd a chwaraeon – ac mae ganddo gefnogaeth garedig Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r sefydliad hwn ar gyfer pob un ohonom ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’m cydweithwyr dros y blynyddoedd nesaf.

Ychwanegodd Ashley Drake o Wasg Academaidd Cymru a Gwasg Dewi Sant:
‘Mae sefydlu Cyhoeddi Cymru / Publishing Wales yn dod â Chymru i’r un lefel â’n cymdogion a’n ffrindiau yn yr Alban ac Iwerddon sydd â chymdeithasau cyhoeddi cenedlaethol sefydledig ac annibynnol: Publishing Scotland a Publishing Ireland. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r ddau sefydliad sydd wedi bod yn hynod gefnogol ac sydd wedi bod yn barod i rannu eu profiadau gyda ni. Mae gan Gymru lais yn y byd cyhoeddi o’r diwedd.’
Meddai Owain Saunders-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Atebol:
‘Mae gan Gymru gymaint o dalent greadigol i’w chynnig. Mae’n hanfodol fel cenedl bod gennym yr hyder nid yn unig i feithrin y dalent honno’n lleol i gefnogi cymunedau lleol mewn ffordd gynaliadwy, ond hefyd i chwilio am gyfleoedd i gyrraedd ei llawn botensial. Mae gan gynnwys creadigol gymaint i’w gynnig o ran cyfoethogi bywyd bob dydd, mewn cymaint o ffyrdd.’
Dywedodd David Bowman, Cyhoeddwr yn Crown House:
‘Nod CCPW yw bod yn llais cydnabyddedig, awdurdodol i’r sector cyhoeddi yng Nghymru, gan gynrychioli holl gyhoeddwyr Cymru er ein budd cyfunol ac er mwyn hyrwyddo’r sector. Bydd y sefydliad yn cefnogi aelodau i ehangu ein cyrhaeddiad ar draws y byd a bydd yn meithrin amgylchedd uchelgeisiol a phroffesiynol lle gall y sector ffynnu.’