Bydd lansiad chweched rhifyn cylchgrawn creadigol Y Stamp yn digwydd yn Nhreorci ddiwedd mis Tachwedd, ac mae o’n argoeli i fod yn un da.

Mae Rhifyn y Gaeaf yn cynnwys gwaith newydd gan Marian Brosschot, Siôn Teifi Rees, Rhys Trimble, Mari Huws, Gruffudd Eifion Owen, Paul Eastwood a Llio Maddocks ymysg eraill. Mae hefyd, yn ôl yr arfer, yn cynnwys cyfweliadau, adolygiadau a darnau amrywiol eraill.

Cynhelir lansiad mawreddog y cylchgrawn yn yr High St. Social, Treorci, yng nghwmni Caryl Bryn, Siôn Tomos Owen, Nerys Bowen ac Aled Warwick yn ogystal â rhai o olygyddion Y Stamp.