Cyfle i wrando ar yr awdur arobryn Bethan Gwanas, awdur Coeden Cadi a Cadi dan y Dŵr, yn sôn o ble daw ei syniadau ac yn darllen pytiau o’r llyfr newydd sydd ar y gweill, lle bydd Cadi yng ngwlad y deinosoriaid! Bydd cyfle hefyd i dynnu lluniau a lliwio tylwyth teg, môr-forynion a deinosoriaid!

Merch fferm o ardal Dolgellau yw Bethan. Graddiodd mewn Ffrangeg yn Aberystwyth cyn gwneud amryfal swyddi, yn cynnwys gweithio gyda’r VSO yn Nigeria. Mae’n adnabyddus fel awdures boblogaidd, teithwraig, cyflwynydd rhaglenni teledu a mwy.

Dydd Sadwrn 28 Ebrill am 1 o’r gloch yn Undercroft, Castell Caerdydd.

Rhan o Gwyl Llen Plant, Caerdydd.

Sesiwn yn Gymraeg. Tocynnau yn £4 ac ar werth nawr.