Gan bod yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd, byddai’n biti peidio â chymryd mantais o’r ardal hyfryd a diddorol o’i chwmpas, felly mae’r Eisteddfod yn trefnu nifer o deithiau tywys o amgylch yr ardal yn ystod yr wythnos.  Bydd Dylan Foster Evans yn arwain ambell daith sy’n edrych ar hanes y brifddinas, a bydd Sioned Webb a Mair Tomos Ifans yn tywys ar daith chwedlau o amgylch y Bae.  Mae ambell daith theatrig hefyd, a llu o weithgareddau eraill – heb anghofio ein teithiau tywys o amgylch y Maes, sy’n gyflwyniad perffaith i’r Eisteddfod.

Mae pob taith yn cychwyn o’r arosfan ger y Cwt Gwybodaeth Coch oni nodir yn wahanol.

Dydd Mawrth 7 Awst

15:30 Taith Heddwch: Caerdydd gyda Jon Gower (taith fws yn cychwyn o’r Bae)

Dydd Mercher 8 Awst

13:30 Taith y chwedlau: Taith antur i fyd y chwedlau i’r teulu cyfan gyda Mair Tomos Ifans a Sioned Webb

14:30 Taith y chwedlau: Taith antur i fyd y chwedlau i’r teulu cyfan gyda Mair Tomos Ifans a Sioned Webb

15:30 Taith y chwedlau: Rownd y bae gyda Mair Tomos Ifans a Sioned Webb

Dydd Sadwrn 11 Awst

9:30 Taith Lenyddol (taith fws yn cychwyn o’r Bae)

Dyma lle medrwch gael pip o’r amserlen lawn.