Dewislen
English
Cysylltwch

Cwestiynau Cyffredin

Sut fydd fy nghais yn cael ei asesu?

Bydd y panel asesu yn cynnwys aelodau o dîm Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru, a Tiffany Murray – curadur ac arweinydd y rhaglen. Byddwn yn chwilio am arloesedd, angerdd, a bwriad clir o ran eich dyheadau a’ch uchelgais fel awdur.

Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar sicrhau grŵp o awduron sydd yn amrywiol ac yn gynrychiadol o ran daearyddiaeth, profiad sgwennu, ieithoedd, ac unrhyw brofiad bywyd fydd wedi ei nodi yn y cais a fydd yn cynnig persbectif newydd i lenyddiaeth yng Nghymru.

Pryd fyddai’n gwybod os yw fy nghais yn llwyddiannus?  

Byddwn yn cysylltu gyda’r holl ymgeiswyr yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau ar 8 Mai 2023.

Beth fydd strwythur a chynnwys yr wythnos?

Bydd y rhaglen yn dechrau am 10.00 am fore Sadwrn 27 Mai ar safle’r Ŵyl, ac yn gorffen ddydd Sadwrn 3 Mehefin, a bydd yn gyfle i chi ymgolli’n llwyr mewn gwledd o gyfleoedd datblygu proffesiynol ar gyfer awduron.  Bydd pob diwrnod yn wahanol, ac yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai, ymweliadau i ddigwyddiadau’r Ŵyl a mwy. Bydd rhagor o wybodaeth am strwythur a chynnwys yr wythnos yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosib o flaen llaw. Byddwch yn cwrdd â nifer o siaradwyr, darllenwyr a hwyluswyr gwadd, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r diwydiant yn ystod yr wythnos.

Beth yw’r trefniadau arlwyo? Os oes gen i alergeddau neu anghenion dietegol, allwch chi ddarparu ar fy nghyfer?

Byddwch yn derbyn eich prydau (brecwast, cinio, a swper) ar safle’r Ŵyl yng nghyfleusterau arlwyo’r staff. Bydd darpariaeth ar gyfer rheiny ag alergeddau/anghenion dietegol. Bydd coffi, te, a diodydd eraill ar gael drwy gydol y diwrnod. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen i chi dalu am unrhyw fwyd neu diod fydd wedi eu prynu tu hwnt i gyfleusterau arlwyo’r staff arlwyo neu’r Ystafell Werdd.

 

Sut fydd fy nghostau teithio yn cael eu ad-dalu?

Byddwn yn ad-dalu costau teithio un ffordd i’r (ac adre yn ôl o’r) Wŷl.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Tocyn Trên Dwy Ffordd Safonol
  • Tocyn Bws Dwy Ffordd Safonol
  • Lwfans Petrol @ 45c y filltir

 

Gall Treuliau fod yn gyfuniad o’r uchod e.e. tocyn trên a bws. Gallwn brynu tocyn o flaen llaw ar eich rhan, neu gallwch gadw derbynneb, fel arall gallwch lenwi ffurflen arian petrol a bydd eich costau teithio yn cael eu ad-dalu pan fyddwch chi’n cyrraedd yr Ŵyl.

Ble fydda i'n aros?

Bydd yr awduron yn lletya mewn tai yn y Gelli Gandryll neu’r ardaloedd cyfagos, yn dibynnu ar argaeledd. Yn anffodus, mae prinder llety yn ystod yr ŵyl felly ni allwn sicrhau ystafelloedd ensuite.

Os na fydd fy nghais yn llwyddiannus, fydda i'n derbyn adborth?

Yn anffodus, oherwydd fod y cyfnod asesu yn dynn a’n bod yn disgwyl nifer helaeth o geisiadau, ni fyddwn yn gallu rhoi adborth i bob cais aflwyddiannus. Serch hynny, gyda’ch caniatâd, fel a amlinellir yn adran GDPR y ffurflen gais, efallai y bydd Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru yn dymuno cysylltu â chi eto i drafod cyfleoedd pellach.

Ym mha iaith fydd y rhaglen yn cael ei gynnal?

Mae’r rhaglen yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Serch hynny, bydd mwyafrif y rhaglen yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae gen i anabledd neu salwch all ei wneud yn anodd imi gymryd rhan. Allwch chi helpu?

Mae timoedd Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw ofynion mynediad neu ofidiau sydd gennych cyn ac yn ystod y cwrs. Mae safle’r ŵyl yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae gofodau digwyddiadau â dolenni sain (induction loops). Rydym yn caniatáu cŵn tywys. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni i drafod hygyrchedd, a byddwn yn gwahodd pob awdur i anfon ffurflen Anghenion Mynediad cyn i’r ŵyl ddechrau.

Oes angen profiad arnaf er mwyn gwneud cais? Neu ydw i’n rhy brofiadol?

Yn bennaf, rydym yn awyddus bod egin awduron ac awduron sydd â pheth profiad ond â llawer o botensial yn elwa o’r cynllun hwn. Nid oes, o reidrwydd, angen llawer o brofiad ysgrifennu arnoch, dim ond syniadau da ac agwedd bositif a phenderfynol. Fel unrhyw grefft arall, mae ysgrifennu yn gallu bod yn heriol ac mae angen llawer o ymdrech ac ymroddiad. Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu’r dulliau a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau, a pharhau ar eich taith fel awdur.

 

Fodd bynnag, os ydych eisoes yn awdur profiadol, er enghraifft efallai eich bod wedi cyhoeddi llyfr neu bamffled, efallai y byddwch yn dal i ganfod bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf lenyddol neu iaith wahanol. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth mae profiad yn ei olygu, a lle mae nhw’n credu y maent wedi eu gyrraedd ar eu taith fel awdur.

Nôl i Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli