Voici le bois de Mametz….
Ffolineb oedd ceisio’r coed heddiw,
ond cerddasom drwy fwledi’r glaw,
noethi’n pennau dan y derw llafar, a’u dail yn janglo
cyn troi ein hwynebau tua’r golau gwlyb.
Ceux-ci sont des arbres galloisants,
des chênes, des noisettes, des hêtres…
Coed Cymraeg eu hiaith yw’r rhain,
y derw, y cyll a’r ffawydd;
glaslanciau praff, yn syth fel bidogau,
a’u brigau deiliog yn rhidyllu’r glaw.
Yn eu gaeaf, mae llawr y goedwig
yn bantiau shells i gyd
-ond heddiw maen nhw wedi’u weirio
gan fieri’r haf
a chylchoedd rheini’n cuddio’r creithiau,
yn llyfnu’r gorffennol brwnt,
lle bôn-dorrwyd dynion hefo’r coed
mewn storom ddur…
Écoute! Ici, on peut, à peu près,
entendre les racines en s’enfoncant par terre
où se couchent les Gallois…
O dan y ddaear hon, mae gwreiddiau Mametz
yn cwpanu pob helmed fel plisgyn ŵy,
yn gwasgu drwy’r ‘sgidiau a laciwyd o draed y milwyr,
yn cosi asennau, dan anwes y pridd.
Mae eu gwaed yn dal i borthi’r coed…
C’est ici le memorial Gallois,n’est-ce pas?
Ac heddiw, wrth gerdded yn ysgafn
dros esgyrn ein cyn-dadau, ail-droediwn yr atgofion,
rhag i’r derw a’r ffawydd golli’u llais.
Ganrif ar ôl i’r Cymry hawlio’r coed,
mae eu hwyrion a’u hwyresau yn dal i gadw oed…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(er cof am Gapten Dafydd Jones, a’r cannoedd o Gymry eraill
a laddwyd yng Nghoed Mametz)