Tu hwnt i orwel f’anwybodaeth i
roedd eangderau Tjeina hyd yn oed,
yn cilio’n ddim. Ni wyddwn i
fod lôn yn ddolen ryngom ni erioed,
a gleuod camel gynt yn tanio’r nos
dan nefoedd estron, drwy’r anialwch maith.
Cymerai drichan gwawr i ddatrys pôs
ei phellter – cyn trysorau pen y daith.
Ond heddiw, gallwn rannu’r gwobrau’n gynt
-lôn sidan o syniadau sydd yn gweu,
(heb chwys na swigod traed i flino’i hynt)
rhwng bach a mawr, yn gadwyn gyd-ddyheu.
Anfona’i ‘ngeiriau heno’n garafan
a gwn daw sidan nôl i mi’n y man.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(i nodi ymweliad Masnach a Diwylliant Llywodraeth Cymru â Tjeina, Mawrth 2018)