Cyfansoddwyd y cerddi isod gyda disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyfer Gŵyl Gerallt 2022 mewn partneriaeth gyda Barddas.
Cynhaliwyd Gŵyl Gerallt yng Nghanolfan y Celfyddydau ddydd Sadwrn 15 Hydref, a cafodd y cerddi eu harddangos ar ffurf poster a ddylunwyd gan Efa Blosse-Mason.
Anifeiliaid anwes, yn gathod a chŵn,
Rhai yn fychan, rhai yn fwy,
Waw! Daw ein harwyr ym mhob siap a lliw,
Rhaid i ninnau gamu i’r her o fod yn arwyr i’n gilydd!
Dosbarth Blwyddyn 6 (W), Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Arbennig yw’r gallu i danio’r galon,
Rhoi mewn hapusrwydd a chyfleon,
Wrth ddysgu a charu ac ysbrydoli,
Rhannu’r cariad tuag at Gymru!
Dosbarth Blwyddyn 6 (E), Ysgol Gymraeg Aberystwyth