Cynhaliwyd cyfres o weithdai yn canolbwyntio ar Newid Hinsawdd fel rhan o ymgyrch Gŵyl Natur a Hinsawdd Ieuenctid oedd yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â WWF Cymru, Maint Cymru, Llysgenhadon Ieuenctid Hinsawdd Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus (Eco-Sgolion), Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, CFfI ac Urdd Gobaith Cymru ym mis Gorffennaf 2022. Dyma gerdd sydd yn cyfuno’r gwaith creadigol a gyfansoddwyd gyda disgyblion Ysgol Gymunedol Llechryd, Ysgol Gymunedol Cei Newydd, ac Ysgol Gymundeol Felinfach.
Ffrwythau, llysiau lliwgar sydd
yn tyfu ar ei thiroedd,
euraidd bysgod,
gwymon gwyrdd
sy’n suo’n nwfn y dyfroedd.
Anifeiliaid mân a mawr
sy’n rhannu’n daear ffrwythlon,
cartref prydferth, bywiog, braf
â’i harddwch sydd yn ddigon.
Camau bach, camau bach,
gwneud yr hyn a fedrwn!
Camau bach, camau bach,
gwneud yr hyn a fedrwn!
Y blaned sydd fel popeth byw
yn haeddu cael ei charu,
yn haeddu gofal tyner, dwys,
yn haeddu cael ei dathlu!
Amser canu’r gân yn groch
i’w gwarchod rhag y rheibio,
awyr iach sydd fwy nag aur
fe ddaeth yr awr i’w gwarchod!
Camau bach, camau bach,
gwneud yr hyn a fedrwn!
Camau bach, camau bach,
gwneud yr hyn a fedrwn!