Dewislen
English
Cysylltwch

Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2024

Nici Beech
Mwy
Hanna Jarman
Mwy
Tudur Dylan Jones
Mwy
Rhiannon Marks
Mwy
Beirniaid Saesneg
Mwy
Nici Beech

Mae Nici Beech yn gweithio ar ei liwt ei hun fel cynhyrchydd prosiectau creadigol ac yn gwneud ymchwil yn rhan amser gyda’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Bu’n gweithio ym myd teledu, fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr ac fel comisiynydd cynnwys yn S4C. Bu’n Gyfarwyddwr Artistig Galeri Caernarfon, mae hi yn Gynghorydd Tref a hi yw cadeirydd Gŵyl Fwyd y dref. Mae hefyd yn barddoni ac yn ysgrifennu, ac yn mwynhau coginio a cherddoriaeth yn ei hamser hamdden.

Cau
Hanna Jarman

Mae Hanna Jarman yn actor, cyfarwyddwr, a sgwennwr sy’n gweithio ar draws radio, ffilm, theatr a theledu. Mae ei gwaith 'sgwennu yn cynnwys Merched Parchus, Y Gyfrinach ac Y Coridor i S4C, Branwen: Dadeni i cwmni theatr Fran Wen/WMC a Buchedd Greta: Gwinllan Wyllt i Radio Cymru. Mae hi'n lleisio y cartwn Rhyfeddodau Chwilengoch a Cath Ddu, a wedi bod yn cyfarwyddo rhaglenni plant a phobl ifanc Rownd a Rownd, Chwarter Call a Newffion. Mae hi hefyd yn fam i Emrys, sydd yn un oed. 

Cau
Tudur Dylan Jones

Mae Tudur Dylan Jones yn byw yng Nghaerfyrddin, ac yn gweithio'n llawrydd ers pedair blynedd. Bu'n dysgu Cymraeg yng Nghaerfyrddin, Aberteifi a Llanelli, ac mae'n Uwch Arholwr Llenyddiaeth gyda CBAC. Mae'n enillydd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrolau am chwedlau ac arwyr Cymru, a'r nofel Y Bancsi Bach. Mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau o farddoniaeth, yn eu plith, Adenydd, ac yn ddiweddar, Am yn Ail, sef cyfrol o gerddi ar y cyd â'i dad.

Cau
Rhiannon Marks

Daw Rhiannon Marks yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac yn arbenigo mewn llenyddiaeth gyfoes a theori lenyddol. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2007 am ryddiaith greadigol ac yn ei gwaith academaidd mae’n mwynhau troedio’r ffin rhwng ffaith a ffuglen wrth greu beirniadaeth lenyddol greadigol. Enillodd wobr Syr Ellis Griffith am ei chyfrol gyntaf, Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr: Golwg ar waith Menna Elfyn (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013) ac yn 2020 cyhoeddodd Y Dychymyg Ôl-Fodern: Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru).

Cau
Beirniaid Saesneg

Awdur a newyddiadurwr yw Dylan Moore. Cafodd ei fagu ym Mannau Brycheiniog ac mae erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd ei gasgliad o erthyglau o bedwar cyfandir, Driving Home Both Ways, yn 2018, ac yn yr un blwyddyn cafodd ei enw yn Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli gan Cymru Greadigol. Yn 2021, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Many Rivers to Cross, ac fe enillodd Ysgoloriaeth Teithio Society of Authors. Mae’n Gadeirydd ar PEN Cymru ar hyn o bryd. Cyd-sefydlodd Cwlwm yn ddiweddar, ac mae wedi golygu nifer o gyfnodolion fwyaf blaenllaw Cymru.

***
Ganwyd Pascale Petit ym Mharis ac mae’n byw yng Nghernyw. Mae o gefndir Ffrengig, Cymreig, ac Indiaidd. Roedd ei wythfed casgliad o farddoniaeth, Tiger Girl (Bloodaxe, 2020), ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn. Enillodd ei seithfed cyfrol, Mama Amazonica (Bloodaxe, 2017), wobr Laurel Prize a Gwobr RSL Ondaatje. Roedd y pedwar cyfrol blaenorol ar Restr Fer Gwobr T.S. Eliot. Roedd hi’n un o sylfaenwyr The Poetry School, ac mae wedi bod yn Gadeirydd Gwobr T.S. Eliot a Gwobr Laurel am eco farddoniaeth. Mae ei nofel cyntaf, My Hummingbird Father, yn cael ei gyhoeddi gan Salt yn 2024 a bydd ei nawfed casgliad yn cael ei gyhoeddi yn 2025 gan Bloodaxe.

***
Nofelydd a dramodydd yw Rachel Trezise , sydd yn wreiddiol o Gwm Rhondda. Gosodwyd ei nofel gyntaf, In and Out of the Goldfish Bowl (Parthian, 2000), ar Restr Orange Futures yn 2002. Yn 2006, cipiodd Wobr Dyla Thomas â’i chasgliad o ffuglen byrion, Fresh Apples (Parthian, 2005). Enillodd ei hail gasgliad o ffuglen, Cosmic Latte (Parthian, 2013),Wobr Darllenwyr Edge Hill yn 2014. Teithiodd ei sioe llwyfan diweddaraf, ‘Cotton Fingers’ Gymru ac Iwerddon, ac enillodd Wobr Summerhall Lustrum yng ngŵyl Fringe Caeredin yn 2019. Ei nofel diweddaraf yw ‘Easy Meat’ (Parthian, 2021).

***
Mae Patrice Lawrence yn awdur arobryn ar gyfer plant a phobl ifanc â chefndir mewn cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Mae hi’n ysgrifennu ar gyfer ystod o genres a grwpiau oedran. Cyrhaeddodd ei chyfrol gyntaf i oedolion ifanc, Orangeboy, restr fer Gwobr Plant Costa, ac enillodd wobr YA y Bookseller a Gwobr Waterstone’s ar gyfer Ffuglen Plant Hŷn. Enwebwyd hi ar gyfer y Fedal Carnegie saith o weithiau - a chyrhaeddodd hi’r rhestr fer unwaith. Mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Llyfrau Little Rebels, Gwobr gychwynnol Jhalak ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Gwobr Ddrama i Bobl Ifanc Merched a’r Cartref, a Gwobr Ffuglen Pobl Ifanc Crime Fest ddwy waith. Yn 2023, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Mae Patrice yn gweithio’n helaeth mewn ysgolion yn ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn storïwyr, ac mae’n mentora oedolion sydd o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol ym meysydd cyhoeddi traddodiadol ym Mhrydain.

Cau