Dewislen
English
Cysylltwch

I wylio’r ffilm gydag is-deitlau neu gyfieithiad, cliciwch ar yr eicon is-deitlau ar y fideo YouTube.

 

Artistiaid

Daw Marged Tudur yn wreiddiol o Forfa Nefyn ond bellach mae’n byw yng Nghaernarfon. Wedi graddio mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA Ysgrifennu Creadigol a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Enillodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Mynd (Gwasg Carreg Gwalch, 2020) gategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021. Mae’n gweithio fel golygydd.

Artist amlddisgyblaethol a Chyfarwyddwr Cysylltiol House of Absolute yw Ffion Campbell-Davies. Wedi’i geni a’i magu yng Nghymru, yn siaradwr Cymraeg, anneuaidd, rhyweddhylifol gydag etifeddiaeth gymysg. Graddedig o’r London Contemporary Dance School a’r California Institute of Arts. Mae Ffion yn gweithio ar y cyd ac fel artist unigol gyda llais, testun, barddoniaeth, celf weledol a digidol. O ddawns fodern, hip hop a Krump i fynegiannau cynhenid o ffeministiaeth ac ymgorfforiad dwyfoldeb, gyda dylanwadau o therapi holistaidd a chrefft ymladd. Gweithio gyda cherddoriaeth a chynhyrchiad ffilmiau, celf arbrofol ac arddangosiaeth. Archwilio gwleidyddiaeth ddyngarol, dadansoddi seicolegol, iaith y corff ac ysbrydolrwydd, o fewn cyd-destun hil, rhywedd, diwylliant a hunaniaeth. Creu drwy ddefod, mynegi agweddau o’r profiad dynol, pontio mannau o rymuso cyndadol yn lleol ac yn rhyngwladol.

 

Y Gerdd

 

Ffitio

Mae hi’n cofio meddwl bod rhywbeth ddim yn iawn,
cofio cwestiynu be oedd yn wahanol,
cofio bod yn anghyffyrddus,
cofio dyheu i deimlo’n saff,
cofio gwneud ei hun yn fach fach
fel trio gwasgu ei chorff i gorset.

come as I am

Mae’r atgofion yn byw yn ei gwely,
maen nhw’n setlo dan ei hewinedd,
maen nhw’n casglu’n glympiau ar flew ei hamrannau,
maen nhw’n eistedd ar ei glin wrth iddi fwyta,
maen nhw’n gwthio penelin i’w chefn ar yr Underground,
maen nhw’n gadael ôl eu dannedd ar ei gwddw.

come as I am                     come                     as I am

come       as         I       am

Ond mae hi’n diosg yr het ddaffodil,
smyjo ‘Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd’ ar ei gwefusau,
rowlio’r polo neck i lawr,
tynnu’r trowsus one size fits all,
datod careiau ‘Cymraeg ar y coridorau’
er mwyn gallu come as I am.

Mae hi’n ymestyn crib ei hysgwydd
nes i’w chyhyrau glicio i’w lle,
mae hi’n taflu ei dwylo i’r awyr
nes bod ei bysedd yn anwesu’r copaon,
mae hi’n llacio’r asgwrn lleiaf un
nes daw sŵn afonydd i ffrydio yn ei chlust.

Yna, mae hi’n taenu’r tir amdani,
gosod y mynyddoedd o gylch ei phen,
clymu canghennau am ei breichiau,
mwytho’r creigiau a’r cloddiau ar ei chluniau,
lapio’r cymoedd a’r dyffrynnoedd am ei choesau
a gwisgo gwlad sy’n ei ffitio hi.

Dyma fi’n dod.

 

/

 

Fitting

She remembers thinking something wasn’t right,
she remembers questioning what was different,
she remembers feeling uncomfortable,
she remembers wanting to feel safe,
she remembers making herself small
like trying to squeeze her body into a corset.

come as I am

The memories live in her bed,
they settle under her nails,
they form clumps on her eyelashes,
they sit on her lap as she eats,
their elbows dig into her ribs on the Underground,
they leave teeth marks on her neck.

come as I am                     come                     as I am
come       as         I       am

But she removes the daffodil hat,
smudges ‘Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd’* on her lips,
rolls down the polo neck,
takes off the one size fits all trousers,
unties the knots of ‘Cymraeg ar y coridorau’*
so she can come as I am.

She extends the ridge of her shoulder
until her muscles click into place,
she throws her hands up to the sky
until her fingers stroke the peaks,
she relaxes the tiniest of bones
until the sound of rivers stream in her ears.

Then, she spreads the land all over herself,
crowns the mountains on her head,
ties branches around her arms,
caresses her hips with the rocks and banks,
wraps the valleys around her legs
and wears a country that fits her.

Here I come.

 

* ‘Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd’ – ‘Our Father who art in heaven’

* ‘Cymraeg ar y coridorau’ – ‘Welsh on the corridors’

Nôl i Preifat: Plethu/Weave