Dewislen
English
Cysylltwch

Mae’r Ysgoloriaethau, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn galluogi awduron o bob genre a chefndir i neilltuo amser i ysgrifennu.

Mae nifer o’r awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau yn y gorffennol wedi profi nifer o lwyddiannau nodedig. Dyma beth o’u hanesion isod.

 

Lleucu Roberts

“Rhoddodd Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru gyfle i mi dreulio amser i ffwrdd o fy ngwaith arferol fel cyfieithydd ac awdur er mwyn gweithio ar Saith Oes Efa. Mae’r broses o ysgrifennu – yn sicr pan fo’n rhan o’ch gwaith bob dydd – fel arfer yn galw am ystyried beth fyddai darllenwyr yn dymuno ei ddarllen. Ond roedd y broses yn wahanol gyda hon, a theimlai fel cyfle gwirioneddol i ysgrifennu’r hyn roeddwn i eisiau ei ysgrifennu, er fy mwyn fy hun a neb arall, waeth beth a ddôi o’r gwaith.
Mae’n sicr bod Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru wedi cynyddu’r teimlad o ryddid i dreulio amser yn dilyn fy nhrywydd fy hun yn llenyddol. “

Derbyniodd Lleucu Roberts Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig 2012. Enillodd Saith Oes Efa (Y Lolfa) Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2014 a hefyd Gwobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2015.

 

Jonathan Edwards

“Roedd yr Ysgoloriaeth i Awdur Newydd a dderbyniais yn 2011 yn angenrheidiol er mwyn datblygu fy nghasgliad My Family and Other Superheroes i’w ffurf bresennol. Roedd y cyfle hwnnw i ymroi am gyfnod estynedig i farddoniaeth, darllen, ysgrifennu a meddwl, a heb orfod poeni am ymyrraeth, yn gwbl hanfodol i fy natblygiad.

Ysgrifennwyd nifer o’r cerddi yn y casgliad, yn cynnwys y gyfres am anifeiliaid a cherddi am Gymru, yn ystod y cyfnod hwn. Caniataodd i mi ddatblygu fy arddull, gan roi cyfle i mi arbrofi gyda dulliau mwy uchelgeisiol, ac fe gyfrannodd hyn i’r cerddi a ysgrifennais wedi cyfnod yr Ysgoloriaeth. Fel awdur yng Nghymru, credaf ein bod yn ffodus iawn i gael sefydliad fel Llenyddiaeth Cymru, sydd mor gefnogol, hael, a chwbl ymroddedig i gynnal etifeddiaeth llenyddol ein gwlad.”

Derbyniodd Jonathan Edwards Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn 2011. Enillodd My Family and Other Superheroes (Seren) Wobr Barddoniaeth Costa yn 2014, a gwobr The Wales Arts Review People’s Prize yn Llyfr y Flwyddyn 2015.

 

 

Rebecca F. John

“Amser yw gelyn pennaf awdur newydd yn aml: canfod amser, neu ei brynu. Rydym angen cymaint ohono, a phrin yn medru ei fforddio. Dyna un o’r rhesymau pam fod Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru mor bwysig. Cyhoeddwyd fy nghasgliad cyntaf o straeon byrion yn 2015, ac fe gaiff fy nofel gyntaf ei chyhoeddi yn 2017. Roeddwn yn ei chael yn anodd dechrau fy mhrosiect mawr nesaf, gan fod amser mor brin.

Mae’r Ysgoloriaeth i Awduron Newydd a fûm yn ffodus i’w derbyn gan Llenyddiaeth Cymru wedi fy ngalluogi nid yn unig i ymchwilio i stori rwy’n temlo’n angerddol amdani ac am ei chyflwyno i’m darllenwyr, ond y mae yn ogystal wedi caniatáu amser i mi ysgrifennu; mae wedi fy sicrhau fod gennyf rywbeth pwysig i’w ddweud, a bod yna gynulleifa sydd am wrando. Rwy’n teimlo’n hynod freintiedig fy mod yn perthyn i wlad sydd mor barod i gynorthwyo a dathlu ei hawduron.”

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig i Rebecca F. John yn 2016, er mwyn gweithio ar ei hail nofel. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion Clown’s Shoes gan Parthian yn 2015. Yn ystod yr un flwyddyn cyrhaeddodd ei stori fer ‘The Glove Maker’s Numbers’ restr fer gystadleuaeth The Sunday Times EFG Short Story Award. Enillodd Rebecca wobr PEN International New Voices Award 2015.

 

Katherine Stansfield

“Yn 2015 fe fûm yn ddigon ffodus i dderbyn Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru, er mwyn gweithio ar fy ail gasgliad o farddoniaeth. Roedd yr Ysgoloriaeth yn golygu y gallwn ddefnyddio fy amser ar gyfer ysgrifennu mewn ffordd mwy effeithlon, ac yn rhoi gofod creadigol i mi arbrofi a herio fy hun mewn ffyrdd newydd. Roedd hefyd yn rhoi hwb i mi fel awdur, ac mae hynny’n amhrisiadwy.”

Derbyniodd Katherine Stansfield Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn 2015. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei thrydedd nofel, a gyhoeddir gan Allison & Busby yn 2018. Mae’n Ddarlithydd Cyswllt gyda’r Brifysgol Agored.

 

Eloise Williams

“Rhoddodd gyfle i mi feddwl, i freuddwydio, i ysgrifennu ac i chwarae â geiriau. Ond nid hynny’n unig. Rhoddodd hyder i mi i gredu y gallaf gael gyrfa fel awdur.

Pan roddodd Llenyddiaeth Cymru Ysgoloriaeth Awdur i mi, mi ddyblais fy ymrwymiad i ysgrifennu. Roeddwn i’n ei weld fel cytundeb. Roedden nhw yn credu ynof ac yn fy ngwaith, felly roedd yn rhaid i mi ymateb i hynny.

Rwy’n gwybod nawr y byddaf byth yn rhoi’r gorau i ysgrifennu. Rhoddodd cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru llawer mwy nag ychydig o fisoedd o amser i mi; rhoddodd bersbectif newydd, sialens newydd a chyfle gwirioneddol i newid fy mywyd.”

Derbyniodd Eloise Williams Ysgoloriaeth Awdur Newydd 2015. Cyhoeddwyd ei nofel Gaslight gan Firefly yn 2015.

 

Ifan Morgan Jones

“Roedd fy Ysgoloriaeth Awdur gan Llenyddiaeth Cymru yn amhrisiadwy. Galluogodd i mi wrth gwblhau fy nofel Dadeni. Hebddo ni fuaswn wedi gallu cymryd amser oddi ar y gwaith er mwyn cwblhau y nofel, ac ni fyddai’r nofel wedi gweld golau dydd hyd heddiw. Fe sicrhaodd Llenyddiaeth Cymry fod y broses yn un ddiffwdan ac roedd yn bleser gweithio gyda’u staff proffesiynol. Rwy’n annog fy nghyd-awduron i gymryd mantais o’r cyfleon y mae gwneud cais am Ysgoloriaeth gan Llenyddiaeth Cymru yn eu cynnig.”

Derbyniodd Ifan Morgan Jones Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn 2015. Cyhoeddwyd ei nofel Dadeni gan Y Lolfa yn 2017.

 

Vanessa Savage

“Mae canfod amser i ysgrifennu wrth redeg busnes a magu teulu wedi bod yn broblem erioed – roedd derbyn Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru ar gyfer The Murder House wedi fy ngalluogi i orffen y drafft cyntaf. Roedd cael yr amser i ysgrifennu’n llawn amser yn gwireddu breuddwyd ac yn allweddol wrth roi hunan hyder i mi i orffen y llyfr. Es ymlaen i weithio gydag asiant llenyddol, Juliet Mushens o Caskie Mushens ac mae The Murder House newydd gael ei brynu gan Little, Brown fel rhan o gytundeb dau lyfr ac mi fydd yn cael ei gyhoeddi fel prif deitl gan Sphere yn gynnar yn 2019.”

Derbyniodd Vanessa Savage Ysgoloriaeth Awdur yn 2015. Caiff ei nofel The Murder House ei gyhoeddi ar ffurf clawr caled yn gynnar yn 2019, gan Sphere yn y DU, a gan Grand Central yn yr UD. Mae’r hawliau hefyd wedi’u gwerthu yn Yr Almaen, Gwlad Pwyl, Y Weriniaeth Tsiec a Ffrainc.

 

Huw Aaron

“Roedd derbyn Ysgoloriaeth i Awduron gan Llenyddiaeth Cymru yn hwb enfawr – ac yn rhoi amser i mi ymrwymo i ddatblygu syniad ar gyfer nofel graffeg epig, a’r hyder ei bod yn stori byddai eraill am ei darllen.

Mae’r nofel graffeg yn brosiect sy’n parhau, ond mae’r amser a dreuliwyd yn gweithio ar y stori wedi fy arwain yn uniongyrchol at greu comic chwarterol Mellten, sy’n cynnig llwyfan i gyhoeddi cyfresi o straeon graffeg fel fy stori innau, a fyddai fel arall heb weld golau dydd.

Mae’r Ysgoloriaeth i Awduron a’r perthynas a ddatblygwyd gyda Llenyddiaeth Cymru o ganlyniad i hynny wedi agor cymaint o ddrysau i mi, gan gynnwys gweithdy ar y cyd gyda chyn Awdur Plant y DU Chris Riddell. Mae’r Ysgoloriaeth i Awduron wedi fy nghynorthwyo i sefydlu gyrfa gan ysgrifennu a dylunio fy straeon fy hun, a dylunio straeon a fenthycwyd gan bobl eraill.”

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Awdur Newydd i Huw Aaron yn 2011. Mae Huw yn awdur a dylunydd llawrydd ac wedi creu cyfres o gardiau chwarae i blant Cardiau Brwydro – Chwedlau Cymru/Battle Cards – Legends of Wales, a gyhoeddwyd yn 2017 gan Atebol.

 

Aled Jones Williams

“Cael fy nghymryd o ddifrif fel awdur – dyna oedd un sgîl gynnyrch derbyn yr Ysgoloriaeth i Awduron gan Llenyddiaeth Cymru. Bod y rhai a’i dyfarnodd i mi yn dangos hyder ynof ac felly yn fy ngalluogi innau i gael hyder i arbrofi, trio pethau gwahanol ac ymestyn fy hun. Nid fy mod yn mynd i ddefnyddio popeth a ysgrifennais, ond yr oedd yr amser ar gael i fentro a bod yn fentrus. A’r amser a rydd yr Ysgoloriaeth i rywun sy’n allweddol: gwn fod gennyf gyfnod penodol lle gallaf roi’r flaenoriaeth i greadigrwydd geiriol. Mae Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn un o’r pethau mwyaf gwerthfawr sydd ar gael i ni awduron ac i’r niferoedd, nid bychan!, sydd wedi bod awydd ysgrifennu, ond am ryw reswm wedi ymatal. ‘Rwan amdani felly!

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig 2016 i Aled Jones Williams. Cyhoeddir ei gyfrol Nostos gan Wasg Carreg Gwalch yn 2018.

 

 

Mari George

“Dw i’n ddiolchgar tu hwnt i Lenyddiaeth Cymru am yr Ysgoloriaeth i Awduron. Rhoddodd hi gyfle arbennig i mi fynd ati i greu cyfrol o gerddi Saesneg, rhywbeth dwi wedi bod eisiau ei wneud ers blynyddoedd ond wedi ei chael yn anodd dod o hyd i’r amser.”

Derbyniodd Mari George Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn 2015, er mwyn gweithio ar ei chasgliad cyntaf o gerddi Saesneg.

 

Natalie Holborow

“Roedd y pedwar mis treuliais yn gweithio ar fy nofel yn amhrisiadwy, yn caniatáu i mi ganolbwyntio ar brosiect mewn ffordd na fyddai’n bosib fel arall, gyda chymaint o ymrwymiadau gwaith. Byddwn yn argymell bod unrhyw awdur sydd o ddifrif ynglŷn â’u prosiect ysgrifennu cyfredol yn ymgeisio am Ysgoloriaeth i Awduron. Fe ganiataodd i mi ymchwilio ac ysgrifennu hanner fy nofel; yn ogystal, fe’m galluogwyd i ddatblygu’r hunanddisgyblaeth angenrheidiol i eistedd ac ysgrifennu. Fel arall byddwn yn rhy flinedig ar ddiwedd diwrnod gwaith, yn llawn ymrwymiadau eraill.

Rwy’n parhau i ymchwilio ar gyfer y nofel, ac yn cymryd amser i ail ddrafftio, a datblygu’r cymeriadau hynny pan fo cyfle. Heb yr amser a brynodd yr Ysgoloriaeth, byddent yn parhau yn fy nychymyg yn unig, ac ni fyddai unrhyw ddeialog erioed wedi cyrraedd y ddalen. Rwy’n gobeithio cwblhau’r nofel o fewn y deunaw mis nesaf.

Mae ysgrifennu’n grefft anodd pan fo rhywun yn gweithio amser llawn, a biliau i’w talu, pethau i’w gwneud, yn ogystal â phrosiectau ysgrifennu mawr ar y gweill. Mae cyfleoedd fel hyn yn gwneud Llenyddiaeth Cymru yn un o’r adnoddau mwyaf gwerthfawr o ran y gefnogaeth sydd ar gael i ni awduron yng Nghymru.”

Derbyniodd Natalie Holborow Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn 2016, er mwyn gweithio ar ei nofel gyntaf.

 

Mab Jones

“Derbyniais Ysgoloriaeth Awdur Newydd tua deng mlynedd yn ôl, pan nad oeddwn yn adnabyddus. Doeddwn I heb gyhoeddi unrhyw waith, doeddwn ddim hyd yn oed yn gweithio o dan yr enw ‘Mab Jones’. Roedd y tri mis i ffwrdd o’r gwaith a ganiatawyd gan y nawdd hwn wedi newid fy mywyd yn gyfangwbl. Roeddwn wedi derbyn yr Ysgoloriaeth hon er mwyn gweithio ar nofel, ond, am y tro cyntaf erioed, oherwydd roedd gennyf amser a rhyddid, fe ddechreuais ysgrifennu cerddi hefyd, ar wahân i’r nofel. Yn fuan wedi hynny, cefais fy newid i gymryd rhan yn y BBC Radio 4 National Poetry Slam. Penderfynais ddal ati fel bardd, a gallaf olrhain llinell uniongyrchol sy’n ymestyn o’r Ysgoloriaeth, y Slam yn Llundain, at beth y gwnaf yn awr, sy’n cynnwys cyflwyno rhaglenni barddoniaeth ar BBC Radio 4. Rwyf wedi cyhoeddi dau gasgliad o farddoniaeth, ennill nifer o wobrwyon, ac wedi darllen fy ngwaith ar hyd a lled y DG a thramor. Heb y gefnogaeth cychwynnol hwnnw, fel awdur newydd, ni fuaswn yma. Credaf mai ymgeisio am Ysgoloriaeth Awdur yw un o’r pethau gorau y gallech ei wneud.”

Derbyniodd Michelle Oliver Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn 2006, er mwyn gweithio ar nofel. Derbyniodd Mab Jones Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig yn 2015, i weithio ar nofel i blant.

 

Kat Ellis

“Mae Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi awduron trwy eu galluogi i dreulio amser yn canolbwyntio ar ysgrifennu; mae derbyn anogaeth a mynegiant o hyder yn cynorthwyo awdur i wireddu prosiect ysgrifennu. Derbyniais Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn 2017, er mwyn datblygu Harrow Lake. Cyhoeddir y gyfrol gan Penguin Random House Children’s yn 2020. Rwy’n gwerthfawrogi’r cymorth a dderbyniais gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn datblygu fy ysgrifennu, a’r gyfrol hon yn benodol.”

Derbyniodd Kat Ellis Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru yn 2017, er mwyn gweithio ar nofel i bobl ifainc. Cyhoeddir Harrow Lake gan Penguin Random House Children’s yn 2020.

Nôl i Ysgoloriaethau i Awduron