Yn stryffaglu gyda’ch nofel? Wedi syrffedu gyda’ch casgliad o straeon byrion? Ar fin rhoi’r ffidil yn y to? Mae’n bryd bwrw ati o’r newydd! Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i aildanio eich ysgrifennu a gwthio’ch gwaith i’r cam nesaf a’r tu hwnt. Gyda dau awdur profiadol, llwyddiannus yn diwtoriaid, byddwch yn cymryd rhan mewn cyfuniad o weithdai grŵp a sesiynau tiwtorial llai, gyda digonedd o amser i ysgrifennu hefyd. Bydd cyfle i gael sesiwn hyfforddiant unigol gyda Vanessa a Cynan ill dau, a fydd yn rhoi cymaint o gymorth â phosibl ichi gyda’ch prosiect presennol, er mwyn ei gryfhau a deffro’ch brwdfrydedd drachefn yn ei bosibiliadau. Ein nod yw eich anfon adre nid yn unig â sgiliau ysgrifennu miniocach a gwaith sy’n eich cyffroi o’r newydd, ond hefyd yn meddu ar fwy o hyder ynoch chi’ch hun fel awdur.