Al Lewis: Taith ‘Te yn y Grug’
Perfformio caneuon o’i albwm gysyniadol newydd ‘Te yn y Grug’ fydd Al Lewis ar y daith hon yn y Gwanwyn, yng nghwmni corau lleol amrywiol. Bydd yn ymweld â phum lleoliad gwahanol rhwng mis Chwefror a mis Mawrth.
Cafodd Al Lewis y cyfrifoldeb o gyfansoddi caneuon gwreiddiol ar gyfer sioe ‘Te yn y Grug’ berfformiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn Awst 2019. Seiliwyd y sioe ar gyfrol o straeon byrion o’r un enw gan Kate Roberts, ‘Brenhines Llên Cymru’, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1959. Mae’r ffaith fod y gyfrol wedi cael ei hailargraffu naw o weithiau, ei haddasu i ffilm, a’i gosod ar fanyleb TGAU Cymraeg yn profi poblogrwydd y straeon. Caiff y gwaith yma gan Kate Roberts ei gydnabod fel cyfrol sydd wedi dal yn nychymyg darllenwyr o bob oed ers yr argraffiad gyntaf hanner can mlynedd nôl.
Yn dilyn llwyddiant y sioe, a werthodd allan o fewn oriau’n unig, cyhoeddodd yr Eisteddfod y bydd llyfr o’r caneuon yn cael ei cyhoeddi, a cyhoeddodd Al Lewis fanylion am y daith gyffrous hon, yn ogystal â newyddion am gryno-ddisg newydd sbon yn llawn o ganeuon y sioe, a fydd hefyd yn cael ei ryddhau ar 21 Chwefror. Y bardd Karen Owen, a’r awdur a chyfarwyddwr theatrig Cefin Roberts sy’n gyfrifol am y geiriau sy’n cael eu canu i gyfeiliant cerddoriaeth y canwr adnabyddus. 12 mlynedd wedi ei ymddangosiad ar ‘Cân i Gymru’ gyda’r gân ‘Llosgi’, mae Al Lewis yn parhau i swyno cynulleidfaoedd ar draws Cymru a’r tu hwnt gyda’i ganeuon melodaidd, bachog.
Y Daith
21/02/20
Aberystwyth
01970 62 32 32
27/02/20
Caernarfon
01286 685 250
06/03/20
Aberteifi
01239 621200
27/03/20
Pwllheli
01758 704 088
28/03/20
Yr Wyddgrug
(01352) 344101 / 701521