Darlith Goffa June Gruffydd

Yn ffigwr hynod ddiddorol yn hanes Cymru a’r delyn, roedd Edward Jones o Landderfel, yn delynor, yn hynafiaethydd ac yn gasglwr cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg nodedig. Mae ei “Relicks of the Welsh Bards”, a gyhoeddwyd yn 1794, yn cynnwys casgliad pwysig o farddoniaeth Gymraeg, cerddoriaeth telyn a cherddoriaeth werin.

Siaradwr: Elinor Bennett OBE FRAM LLB

Bydd y ddarlith hefyd yn cael ei dangos yn fyw arlein.