Bydd ’na gyfarfod difyr yn digwydd draw yn Abertawe ar y 14eg o Fai ynghylch geiriau cwiyr/cwiar/queer Cymraeg.

Mi fydd y sgwrs greadigol dan arweiniad Bethan Marlow yn gyfle ichi chwarae efo geiriau, archwilio ystyron termau gwahanol, eu naws, a’u dylanwad. Mi fydd yn bendant yn ddigwyddiad creadigol iawn yng nghwmni Beth.

AM QUEERTAWE

Mae’r prosiect hwn yn gyfle i gysylltu pobol a chymunedau LHDTC+ Abertawe mewn cyfres o weithdai creadigol, yn archwilio a dysgu drwy brofiadau a theithiau bywyd ein gilydd.

Bydd y prosiect rhyng-genhedlaethol yma yn sicrhau gofod saff, creadigol a chynwysiedig i bobol cwîar Abertawe gael dathlu eu hanes, gyda phopeth yn dod at eu gilydd mewn ffrwydriad credigol o ddigwyddiadau Nadolig 2024.

BETHAN MARLOW – ARTIST ARWEINIOL QUEERTAWE

Mae Bethan yn siaradwr Cymraeg, cwiar o bentref bach yng Ngogledd Cymru. Mae nhw’n adnabyddys am sgwennu bydoedd ffuglenol sy’n cynnwys lleisiau real ac yn aml yn gweithio gyda chymunedau sy’n hawdd i’w anwybyddu led-led Cymru. Mae gwaith Bethan yn cynnwys NYRSYS (Theatr Gendlaethol) PIGEON/PIJIN (Theatr Iolo/Theatr Genedlaethol) MOLD RIOTS (Theatr Clwyd) a FERAL MONSTER (National Theatre Wales).