Estynnir croeso cynnes i chi ymuno â ni ar gyfer diwrnod o gyfieithu a thrafodaeth yn Arad Goch, Aberystwyth.

Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Cyfieithu 2019, mae Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Wales PEN Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd dau awdur nodedig – sef Golan Haji, bardd a chyfieithydd Cwrdaidd-Syriaidd a Samira Negrouche, bardd ac awdur Ffrangeg o Algeria – yn cyflwyno seminar gyhoeddus am eu gwaith yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth.

Dilynir hyn gan weithdai cyfieithu yn canolbwyntio ar un neu ddwy o’u cerddi. Cloir y diwrnod gyda thrafodaeth ar gyfer cyfieithwyr (a’r sawl sydd â diddordeb yn y grefft o gyfieithu) ar sut y gellir cefnogi gwaith cyfieithwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Arweinir y gweithdai gan Mererid Hopwood a Zoë Skoulding. Ceir rhagor o fanylion am y beirdd ac arweinwyr y gweithdai isod.

 

Trefn y dydd:

12-2pm: Cinio a seminar gyhoeddus gan Golan Haji a Samira Negrouche

2-4pm: Gweithdai Cyfieithu

4-5pm: Trafodaeth ar gyfer Cyfieithwyr

 

Cyhoeddir y cerddi a ddewisir ar gyfer y gweithdai ar wefan Cyfnewidfa Lên Cymru yn fuan.

Welwn ni chi yno!

Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau & Wales PEN Cymru