Mae Gŵyl Canol Dre yn digwydd eleni ar y 8.7.23 ar gaeau Parc Myrddin yng Nghaerfyrddin, gyda digwyddiadau a gweithgareddau di-ri o 11yb tan 8yh.
Dewch i fwynhau amrywiaeth o berfformiadau ar y ddwy lwyfan. Ar y brif lwyfan, cewch gyfle i glywed grwpiau ac artistiaid megis Gwilym, Eden ac Yws Gwynedd ac ar y Llwyfan Berfformio, bydd perfformiadau gan ysgolion lleol ynghyd â sioeau gan Siani Sionc a Mewn Cymeriad.
Yn yr amryw o bebyll o gwmpas yr ŵyl, bydd sesiynau stori, gweithgareddau creadigol, cyflwyniadau, gweithdai dawns a llenyddol a llawer mwy yn rhan o’r arlwy. Bydd cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau yn yr ardal chwaraeon a bydd amrywiaeth o stondinau yna’n gwerthu nwyddau. Gallwch hefyd weld y ceisiadau fydd wedi dod i’r brig yn ein cystadleuaeth gelf. Bydd dewis helaeth o fwyd a diod yn ogystal â bar.
Diolchwn yn fawr i’n prif noddwyr Cyngor Tref Caerfyrddin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Castell Howell a Tai Wales & West am noddi ardaloedd yr ŵyl.
Dewch yn llu i fwynhau diwrnod llawn sbort a sbri, a’r cyfan AM DDIM!