Yr Ods yw’r cerddorion Griff Lynch, Gruff Pritchard, Rhys Aneurin ac Osian Howells.

Mae Iaith y Nefoedd yn gywaith cysyniadol gyda’r awdur Llwyd Owen, gyda caneuon yr albym wedi’i ysbrydoli gan nofel fer o’r un enw sy’n ail-ddehongli’r ymadrodd cyfarwydd, a’i osod mewn stori epig am Gymru ddystopaidd sy’n pydru â chasineb. Mewn dyfodol diobaith, caiff rhyddid a syniadau eu rheoli hyd yr eithaf.

Ers ffurfio yn 2008, mae Yr Ods wedi sefydlu eu hun yn fel un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ynghyd â chyfoeswyr fel Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline a Cate Le Bon. Maent wedi rhyddhau dau albwm i glod uchel trwy y label Sain, sef ‘Troi a Throsi’ (2011) a ‘Llithro’ (2013). Maent wedi teithio’r DU ac Ewrop, perfformio ar lwyfannau Maes B, Sŵn, Green Man a Gwyl Rhif 6, ac wrth gwrs ar brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol gyda cherddorfa o 40 cerddor a chynulleidfa o 2000 – uchafbwynt yn eu gyrfaoedd hyd hyn.
Mae Yr Ods yn ôl, ar ôl ‘hiatus’ bach, i greu ‘Iaith y Nefoedd’, eu trydydd albwm a’u gwaith fwyaf uchelgeisiol hyd hyn.

18+