Painting the Beauty Queens Orange: Women’s Lives in the 1970s wedi ei olygu gan Rhian E. Jones, Llyfr y Mis Waterstones yng Nghymru. Fel antholeg o draethodau ar brofiadau deinamig menywod yn y 1970au yng Nghymru, sy’n archwilio popeth o ddyrchafiad Thatcheriaeth i garu roc pync, mae’r casgliad hwn yn cynnig mewnwelediad rhyfeddol i
fywydau go iawn menywod yn y ’70au yn eu holl amrywiaeth hynod.

Ymunwch â ni ar 13eg Tachwedd 2021 yn lansiad Painting the Beauty Queens Orange, lle bydd darlleniadau, lluniaeth, cyfle i gael eich llyfr wedi ei lofnodi, a chyfle i gwrdd â rhai o’r
awduron sy’n ymddangos yn y llyfr.