Tiwtoriaid / Ailbhe Darcy & Susan Richardson

Beth yw rôl barddoniaeth mewn argyfwng? Sut all ffurf, naws neu ymdriniaeth cerdd esblygu mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd? Sut all barddoniaeth ein helpu i barhau, i oroesi i wrthsefyll? A sut all barddoniaeth ddod â chysur neu annog gweithredu?

Mae croeso i ddechreuwyr ac i awduron mwy profiadol i ymuno â ni i geisio datrys y cwestiynau yma.

Gyda’n gilydd, byddwn yn darllen gwaith sydd yn delio yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol, â newid hinsawdd gan ganolbwyntio ar strategaethau y mae beirdd cyfoes wedi eu defnyddio i’n helpu ni i weld y pwnc brys, lletchwith, llethol hwn â llygaid newydd. Byddwn yn chwilio am ysbrydoliaeth yn y tirwedd o’m gwmpas hefyd, gan archwilio ffyrdd i ymwneud â’r newidiadau i’n amgylchedd naturiol. Bydd cyfle i chi drio â dulliau newydd, gan arbrofi â ffurfiau, synau a iaith, a chyfle hefyd i ystyried sut all barddoniaeth ar y thema o argyfwng hinsawdd gyffwrdd rhywun, a chael effaith, tu hwnt i’r dudalen. Drwy ymroi yn llwyr i ymateb yn greadigol i’r pwnc dwys hwn, byddwn yn gadael y cwrs yn llawn egni, yn obeithiol, ac â llond gwlad o gerddi a syniadau newydd.