Mae pris i’w dalu am gyfiawnder tref fach.

‘Llawn tensiwn ac ing, doeddwn i ddim yn gallu rhoi hwn o’r neilltu. Gwnaeth y troeon plot annisgwyl fy nghadw ar bigau drain. Gwych!’ Simon McCleave

‘Tywyll, mae’n rhoi sawl sioc a boddhad i gyd ar yr un pryd. Mae’n trin y cymeriadau a’r cyflymder yn grefftus iawn, ac yn diberfeddu dyletswydd foesol!’ Rachel Lynch

Ddeng mlynedd yn ôl, yn nhref Savage Ridge sy’n swatio yng nghysgod coed pinwydd, mae Nick, Emmy a Peter yn llofruddio eu cyd-ddisgybl, Sammy Saint John.

Nid yw ei gorff byth yn cael ei ddarganfod ac ni chaiff neb ei arestio. Mae’r tri chyfaill yn dod i gytundeb i adael Savage Ridge a byth i ddychwelyd…

Nawr, mae pob un yn cael ei ddenu’n ôl, naill ai ar hap neu gan ffawd yn ôl pob golwg. Ond mae yna reswm arall y tu ôl i hyn: mae’r Ditectif Preifat, Sloane Yo, wedi dod â nhw’n ôl i ateb o’r diwedd am eu trosedd.

Mae’r rhwyd yn dechrau cau amdanynt. Ond wrth i bob carreg gael ei throi drosodd ar drywydd cyfiawnder, mae cyfrinachau claddedig Savage Ridge a chyflogwyr Sloane – teulu didrugaredd Saint John – yn dechrau dod i’r fei.

Beth nad ydynt yn ei ddweud wrth Sloane? Ai Sammy Saint John yw’r unig ddioddefwr? A phan gaiff y gwirionedd ei ddatguddio o’r diwedd, pa ochr bydd yn ei dewis?

I ddarllenwyr a fwynhaodd lyfr Chris Whitaker, We Begin at the End, mae Savage Ridge yn stori drosedd wefreiddiol a chymhellol sy’n gofyn y rheswm pam, wedi’i lleoli ym mherfeddion coed pinwydd gogledd-orllewin arfordir Môr Tawel America.

Morgan Greene yw ffugenw’r awdur Prydeinig, Daniel Morgan, a fagwyd yng Nghymru, ac sydd wedi astudio Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Daniel, sydd wedi ysgrifennu’r gyfres hynod boblogaidd, Jamie Johansson, yn byw yn ne Columbia Prydeinig, Canada, ar hyn o bryd