Mae’r awdur William Ryan yn nodi ac yn esbonio saith ffordd o wella’ch ffuglen mewn dosbarth meistr hwyliog a chyflym a fydd yn newid eich ffuglen er y gwell mewn dim ond 90 munud.

  • Sut i ddechrau a sut i’w gorffen
  • Sut gall creu byd dramatig i gynnwys eich cymeriadau helpu i ddatblygu stori â ffocws iddi
  • Sut i adeiladu gosodiadau corfforol a chymdeithasol i’ch nofel ddigwydd ynddynt
  • Pwysigrwydd gwrthdaro a sut i’w ddefnyddio i greu tensiwn dramatig
  • Sut i gyfleu gwybodaeth am gymeriadau a lle heb arafu eich ysgrifennu

Bydd recordiad o’r dosbarth meistr llawn hefyd ar gael i’w rannu gyda’r mynychwyr.

Mae ffi’r gweithdy o £30 (gan gynnwys TAW) yn daladwy’n llawn arlein.

Mae hwn yn ddigwyddiad byw arlein a fydd yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio meddalwedd fideo-gynadledda. Bydd cyfarwyddiadau ymuno ac arweiniad yn cael ei darparu llawn wythnos cyn dyddiad dechrau’r digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys testun ysgrifenedig a lluniau. Cysylltwch â ni ymlaen llaw fel y gallwn wneud trefniadau i sicrhau bod pob dogfen yn ymddangos mewn fformat sy’n gweithio i chi.

Mae Writers & Artists wedi sicrhau bod hyd at bum lle bwrsariaeth ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. Ewch i ein tudalen bwrsariaethau i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais. Rhaid bod pob cais am fwrsariaeth wedi’i gyflwyno i’w ystyried erbyn dydd Mercher 23 Mawrth.