Siân Melangell Dafydd yn sgwrsio â Dr Delyth Badder a Sara Huws.

Siân Melangell Dafydd: awdur, bardd, cyfieithydd, naturiaethwr, athro yoga. Coel Gwrach yw ei phrosiect ymchwil a chreadigol sy’n ddatblygiad naturiol o’i chefndir yn fforio a byw mewn ffordd a fyddai wedi cael ei ystyried yn amheus (ac sydd hyd heddiw gan rai). Mae’n amser i stori’r pump a gafodd eu herlid am fod yn ‘witch’ yng Nghymru gael ei adrodd yn eu hiaith eu hunain. Yn sgil fforio am wybodaeth, mae cwestiynau eraill wedi codi, gwerthfawrogiad o eirfa a thraddodiadau Cymraeg a Chymreig. Rhan o ymchwil Coel Gwrach yw’r sgyrsiau hyn

Mae Delyth Badder yn lên-werinydd, yn awdur, ac yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus gydag Amgueddfa Cymru. Yn ogystal â chyfrannu’n gyson i drafodaethau ynghylch llên gwerin Gymreig, Delyth yw cydawdur The Folklore of Wales: Ghosts. Mae Delyth hefyd yn gweithio fel y Patholegydd Pediatrig Cymraeg cyntaf erioed ac fel Archwilydd Meddygol i’r GIG.

Mae Sara Huws yn gweithio gydag archifau a llyfrau prin yng Nghaerdydd, a’n astudio am PhD ym Mhrifysgol Abertawe. Yn golofnydd a darlledydd, mae’n arbenigo mewn casgliadau hanesyddol Cymreig, gyda diddordeb mewn hanes traddodiadau, chwaraeon, cerddoriaeth ac ymgyrchu.

Cefnogir y prosiect hwn, gyda diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.