Siaradwr: Siw Jones  

Ymunwch â ni ar gyfer ein rhaglen newydd o Sgyrsiau Creadigol, cyfres o chwe digwyddiad byr i ysbrydoli awduron Cymru. Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd agored a hygyrch i ddysgu rhagor am ddefnyddio llenyddiaeth mewn gweithdai cyfranogi. Maent hefyd yn gyfle i gwrdd ag awduron o’r un anian, cyfnewid syniadau, rhannu arfer da, adnoddau a chysylltiadau, a mwynhau sgyrsiau creadigol. Mae’r rhaglen hon wedi ei datblygu o ganlyniad i sesiynau adborth ac ymgynghori a gynhaliwyd ag awduron ledled Cymru yn 2021.

Mae pob sesiwn 90 munud o hyd yn rhad ac am ddim. Ein nod gyda phob un o’r Sgyrsiau Creadigol yw adeiladu’r sgiliau a chynyddu’r hyder sydd ei angen i redeg gweithdai cyfranogi sy’n defnyddio gweithgareddau llenyddol i wneud newid cadarnhaol i lesiant cyfranogwyr. Mae’r rhaglen hefyd â’r nod o gyfrannu at adeiladu rhwydwaith gefnogol o awduron yng Nghymru sydd un ai’n gweithio yn y gymuned yn barod neu sydd â diddordeb yn y maes hwn.

Ymunwch â Siw Jones sydd â phrofiad helaeth o’r byd addysg ac o grefft y gynghanedd i edrych ar ddulliau o sut i ddysgu’r gynghanedd mewn ysgolion.

Yn hen grefft unigryw, mae’r gynghanedd yn un o drysorau’r iaith Gymraeg. O gofio hynny, mae’n gyfrifoldeb arnom ei throsglwyddo i’n plant a’n pobl ifainc.

Nod y sesiwn hon fydd archwilio sut y gall athrawon neu feirdd sy’n ymweld ag ysgolion gyflwyno’r gynghanedd i’r genhedlaeth newydd. Â’r gynghanedd wedi llithro oddi ar y maes llafur Cymraeg, awn ati i archwilio sut fedrwn ni annog ysgolion i’w chyflwyno i’r disgyblion, gan ystyried dechrau ar y gwaith pwysig o osod y seiliau yn y sector cynradd.

Gyda chymorth ymweliadau gan feirdd, adnoddau arlein, a llyfrau apelgar ar y gynghanedd i ddysgwyr ifainc, byddwn yn archwilio ffyrdd o annog diddordeb a chynnwrf y garfan hon o ddysgwyr yn y gynghanedd, gyda’r nod o ddatblygu eu dealltwriaeth a’u creadigrwydd mewn perthynas â hi, a’i gwarchod i’r dyfodol.

Bydd croeso i athrawon, beirdd, ag unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc i ymuno â’r sesiwn ddifyr a phwysig hon, i wrando ac i drafod syniadau.

Bydd dim mwy nag 20 o gyfranogwyr yn gallu mynychu pob cwrs blasu; bydd y cyrsiau am ddim ac yn cael eu cyflwyno dros blatfform fideo Zoom.

Bydd y digwyddiad hwn drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd isdeitlau byw hefyd. Byddwn yn anfon dolen i chi i’r sesiwn Zoom yn yr ebost cadarnhau a 24 awr cyn y digwyddiad.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Am unrhyw fanylion pellach am y digwyddiad, cysylltwch â  leusa@llenyddiaethcymru.org

Trefnir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru.