11.00 am – 4.30 pm

Tiwtor / Siân Melangell Dafydd

Ymunwch â Siân am ddiwrnod o grwydro a chwilota am fwydydd gwyllt o amgylch tir a gwrychoedd cyfoethog Llanystumdwy a’r ardal. Wrth edrych ar y byd o’n cwmpas byddwn ni’n dod ar draws syniadau i’w rhoi yn ein hysgrifennu, manylion godidog sydd yn dod â’r dychymyg yn fyw. Wrth edrych yn fanylach byddwn hefyd yn dod o hyd i fwydydd gwyllt i roi ar ein platiau! Byddwn yn rhannu ein gwybodaeth am fywyd gwyllt, yn dysgu enwau planhigion a’r bwydydd sydd o dan ein traed, ac yn rhannu straeon. Cwrs addas i’r rheiny sy’n chwilfrydig am natur a bywyd gwyllt, i feirdd, awduron rhyddiaith a’r ffeithiol.

Os ydych yn chwilio am ychydig o awyr iach i roi yn eich gwaith creadigol, dyma’r diwrnod i chi.