Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022

Cyhoeddwyd Llu 28 Chw 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Beirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi panel beirniadu Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022.

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r darlledwr Mirain Iwerydd, sy’n cyflwyno’r Sioe Frecwast dydd Sul ar BBC Radio Cymru 2, y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen, yr academydd, golygydd ac awdur Llên Cymru Siwan Rosser, a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.

Bydd y gwobrau Saesneg yn cael eu beirniadu gan y bardd a’r awdur Krystal Lowe, y newyddiadurwr a darlledwr Andy Welch, yr awdur a’r cyflwynydd Matt Brown, a’r bardd ac enillydd o Gwobr ‘Rising Star’ Cymru 2020, Taylor Edmonds.

Darganfyddwch fwy am holl feirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 yma.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn amryw o ffurfiau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y beirniaid yn dewis pedwar enillydd categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant & Phobl Ifanc. Bydd prif enillydd hefyd yn cael ei ddewis ar gyfer y ddwy iaith a fydd yn cymryd teitl Llyfr y Flwyddyn 2022. Mae 12 gwobr i gyd, gan gynnwys gwobrau Barn y Bobl.

Cyhoeddir y rhestri byr a’r enillwyr mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales unwaith eto eleni. Bydd cyfres o gyhoeddiadau yn cael eu gwneud gan Stiwdio ar BBC Radio Cymru a The Arts Show ar BBC Radio Wales dros yr haf. Cliciwch yma i weld yr holl ddyddiadau pwysig.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn rhan hanfodol o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru. Mae’r gwobrau yn helpu i gyflawni ein nod o ddathlu a chynrychioli awduron, treftadaeth a diwylliant llenyddol cyfoethog Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan gwerthfawr i awduron newydd yn ogystal ag awduron profiadol.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth holl noddwyr a phartneriaid y wobr: Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Cyngor Llyfrau Cymru a BBC Cymru Wales. Ceir mwy o wybodaeth am y noddwyr a phartneriaid yma.

I gael mwy o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022, cliciwch yma.