Dewislen
English
Cysylltwch

Dave Datblygu – Cofio David R Edwards

Cyhoeddwyd Mer 23 Meh 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dave Datblygu – Cofio David R Edwards
Dave Datblygu gyda Geraint Jarman, Gŵyl Dinefwr 2014. Hawlfraint: Emyr Young
Ein Prif Weithredwr Lleucu Siencyn sy’n cofio dylanwad eithriadol David R Edwards, Dave Datblygu, ar ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru.

Tristwch mawr oedd clywed yr wythnos hon am farwolaeth David R Edwards, lleisydd y band Datblygu a chrefftwr geiriau heb ei ail. Mae pawb yn Llenyddiaeth Cymru yn anfon eu cydymdeimladau dwysaf at ei gyfeillion agosaf, yn enwedig Pat Morgan ei gyd-aelod yn y band.

Ers sefydlu Datblygu yn yr ysgol yn Aberteifi yn yr 80au cynnar, creodd Dave gyfoeth o waith sydd wedi cael ei fwynhau gan sawl cenhedlaeth. Mae ei ddylanwad ar ein diwylliant yng Nghymru yn hynod bellgyrhaeddol, ac fe ysbrydolodd wrandawyr o bedwar ban y byd.

Yn ogystal â’r gwaddol cerddorol anhygoel, mae ei ddylanwad llenyddol yn ddihafal hefyd. Mewn print, cyhoeddwyd cyfrol ganddo fel rhan o raglen Beirdd Answyddogol Y Lolfa a bu’n cyfrannu darnau llenyddol i’r cylchgrawn Tu Chwith. Cyhoeddodd hunangofiant a chyfrol o gerddi yn Saesneg.

Fodd bynnag, fel gyda’r rhan fwyaf o farddoniaeth – yn enwedig yn y Gymraeg – ar lafar mae ar ei gorau. I werthfawrogi gwir gelfyddyd Dave, mae angen gwrando yn astud ar ei eiriau, a’r rheiny wedi eu plethu’n anfarwol â rythmau a cherddoriaeth gwych Pat. Mae nifer o’i ganeuon yn darllen fel straeon byrion – yn codi llen ar wirionedd ac yn gosod golygfa a senario cyffredin o anghyffredin.

Roedd y perfformiadau byw yn wefreiddiol, ac rydym hefyd yn eithriadol o lwcus o’r drysorfa o recordiadau gwych sydd ar gael i’w mwynhau am flynyddoedd i ddod. Ystyrir y recordiau Wyau, Pyst, a Libertino ymhlith rhai o ddarnau celfyddydol pwysicaf a mwyaf dylanwadol y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Mae caneuon fel 23, Nofel o’r Hofel, Maes E, ac Ugain i Un yn cyfleu ei frwydr gyda’i fwganod personol gan ddefnyddio cymariaethau a throsiadau hollol unigryw. Ond roedd ganddo fwganod cymdeithasol hefyd, a does yr un dychanwr cystal wedi ysgrifennu yn y Gymraeg erioed – fel y clywir yn y clasuron Gwlad ar Fy Nghefn, Dafydd Iwan yn y Glaw, Cân i Gymru a nifer eraill.

Ond doedd dim byd cas na blin am Dave fel person, ac mae pob un fuodd yn ddigon lwcus i’w adnabod yn sôn am ei anwyldeb a’i garedigrwydd. Roedd hefyd yn hynod ddiymhongar, sy’n beth neilltuol iawn o ystyried ei ddylanwad a’i boblogrwydd byd-eang. Roedd e wirioneddol wrth ei fodd yn cwrdd â’i ffans, ac yn rhyfeddu fod pobl yn crwydro cannoedd a miloedd o filltiroedd i’w weld yn perfformio. Dylanwadodd ar nifer o fandiau ifanc, gan gynnwys y rhai aeth ymlaen i ffurfio grwpiau ‘Cool Cymru’r’ ‘90au, yn cynnwys Catatonia, Super Furry Animals, a Gorky’s Zygotic Mynci.

Er y cyfnodau a salwch a ddioddefodd dros y blynyddoedd, roedd Dave dal yn gynhyrchiol iawn, ac fe gyhoeddodd record newydd yn 2020, Cwm Gwagle. Mae’n gadael gwaddol eithriadol o werthfawr ar ei ôl. Mae hefyd yn gadael gwagle enfawr. Yn arwr i nifer ohonom, ry’n ni’n ddiolchgar i Dave am bopeth.