Dewislen
English
Cysylltwch

FA Cymru yn cefnogi galwad “angerddol” pobl ifanc Sir Gâr am gemau cyfrifiadurol drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyhoeddwyd Mer 6 Rhag 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
FA Cymru yn cefnogi galwad “angerddol” pobl ifanc Sir Gâr am gemau cyfrifiadurol drwy gyfrwng y Gymraeg
Hawlfraint CDB Cymru
Mae swyddogion FA Cymru, gan gynnwys Ian Gwyn Hughes a Noel Mooney, wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch disgyblion Ysgol Pontyberem i sicrhau’r Gymraeg fel opsiwn ieithyddol ar gemau EA Sports.

Yn ystod gweithdy gyda Bardd Plant Cymru, Casi Wyn, yng ngwanwyn 2023, lluniodd disgyblion blwyddyn 6 (2022-2023) lythyr yn galw ar y cwmni i ychwanegu’r Gymraeg fel opsiwn, gan bwysleisio fod Erthygl 30 yn nogfen Hawliau Plant Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (yr UNCRC) yn nodi fod gan bob plentyn hawl i ddefnyddio eu hiaith ei hunain.
Mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm Abertawe ddydd Mawrth 5 Rhagfyr, daeth rhai o unigolion mwyaf dylanwadol pêl-droed Cymru i wrando ar y disgyblion yn cyflwyno eu hachos. Yn eu mysg roedd Steve Williams, Llywydd FA Cymru; Will Lloyd Williams, Is-Lywydd; Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru; Gemma Lewis, Rheolwr Llwybrau Menywod a Merched; Dr David Adams, Prif Swyddog Pêl-droed; Ian Gwyn Hughes; Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus, a Helen Antoniazzi, Pennaeth Materion Cyhoeddus.

Mae cyfres gemau pêl-droed FC gan EA Sports (FIFA gynt) ymysg y gemau mwyaf poblogaidd yn y byd. Gyda dros 325 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu, mae’r gêm ar gael mewn dros 51 o wledydd a dros 18 o ieithoedd. Er hynny, nid oes modd chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n bwysig,” meddai Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, Noel Mooney – sydd yn dysgu’r Gymraeg, gan gyfarch y disgyblion yn eu mamiaith,

“Rydym ni, Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn cefnogi. Diolch, diolch.”

Angerdd y disgyblion oedd yr hyn greodd argraff ar Ian Gwyn Hughes, gan eu bod am i’r Gymraeg fod yn

“rhywbeth byw – iaith fodern, bob dydd, hyderus, ifanc y mae pawb yn gallu ei mwynhau y tu allan i’r ysgol. Rydym ni gyd yn gwybod mai pêl-droed ydi’r gamp fwyaf poblogaidd yn y byd. Byddai’r ychwanegiad yma i un o gemau cyfrifiadurol enwocaf yn rhoi mwy o statws a mwy o hyder i’r iaith a phawb sy’n ei siarad, ac yn creu twf i’r dyfodol, achos chi yw’r dyfodol, ac mae’n wych clywed y neges yma gan bobl ifanc. Rydym ni gyd yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiolchgar i chi am y gwaith rydych chi wedi ei gyflawni a’r angerdd rydych chi’n ei deimlo dros y mater.”

Daeth yr ymgyrch i sylw FA Cymru wedi i ddisgyblion Ysgol Pontyberem ddarllen eu llythyr mewn digwyddiad i ddathlu cynllun Bardd Plant Cymru yn y Senedd fis Gorffennaf eleni o flaen Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr o sefydliadau cenedlaethol. Gwahoddwyd nhw gan FA Cymru i roi eu hachos ger bron rhai o’u swyddogion, cyn gêm bêl-droed rhyngwladol merched Cymru v Almaen a gynhelir yn Stadiwm Abertawe ddydd Mawrth 5 Rhagfyr.

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd a Casi Wyn oedd yn y rôl rhwng 2021-2023. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol, a’u trwy greadigrwydd. Rhan allweddol o’r gwaith yw gwrando ar yr hyn sydd yn bwysig i blant a phobl ifanc Cymru heddiw, gan gynnig ffordd amgen iddynt fynegi eu lleisiau, ac eirioli drostynt.

 

Hawlfraint CDB Cymru

 

Meddai Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru:

“Mae’n bwysig iawn bod y plant gallu defnyddio eu Cymraeg yn greadigol a byddai’n arbennig os gallan nhw chwarae gemau fel EA FA yn Gymraeg. Yn Llenyddiaeth Cymru, trwy brosiectau fel Bardd Plant Cymru, rydym ni’n ysbrydoli’r plant i ddefnyddio eu Cymraeg yn greadigol a chodi eu lleisiau am bethau sy’n bwysig iddyn nhw. Rydw i mor falch o’r plant o Ysgol Pontyberem sydd wedi defnyddio gweithdai gyda’r Bardd Plant i alw am newid, ac mae’n wych bod y FAW wedi eu clywed.”

Caiff y cynllun ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru Ceir rhagor o fanylion am gynllun Bardd Plant Cymru ar wefan Llenyddiaeth Cymru.