Dewislen
English
Cysylltwch

Geiriau ar Gynfas: Prosiect Mewn Partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru

Cyhoeddwyd Llu 21 Meh 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Geiriau ar Gynfas: Prosiect Mewn Partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru i gynnal prosiect cyfranogi llenyddol â phobl B/byddar neu anabl yng Nghymru.

Roedd Geiriau ar Gynfas yn brosiect peilot, ac yn gam pwysig ar ein taith i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad. Ein nod yw cynyddu mynediad at ac effaith ysgrifennu creadigol ar gyfranwyr yng Nghymru er mwyn ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.

Mae Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb yn rai o flaenoriaethau tactegol Llenyddiaeth Cymru, ac mae’r rhaglen beilot hwn yn amlygu ein ymrwymiad i gyflawni prosiectau sydd wedi eu targedu, cefnogi cynrychiolaeth gynhwysol ar draws ein gweithgareddau, ac annog lleisiau llenyddol sydd wedi eu tangynrychioli. Ein gobaith yw sicrhau fod diwylliant llenyddol Cymru yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru gyfoes.

Cynhaliwyd dau weithdy ymgynghori blasu gyda chyfranogwyr B/byddar ac anabl yn Rhagfyr 2020 a defnyddiwyd y sesiynau yma, a oedd yn canolbwyntio ar chwarae â geiriau, er mwyn siapio cynllun ar gyfer prosiect hirach, 6 wythnos o hyd, a gynhaliwyd rhwng Chwefror-Mai 2020, dan arweiniad y bardd Kittie Belltree.

Meddai Kittie Belltree, Ymarferydd Creadigol:

 “Mae ysgrifennu yn offeryn rhagorol i archwilio, grymuso a bywiogi ein bywydau. Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ymchwilio eu dychymyg, chwarae gyda geiriau a chyd-greu darn terfynol er mwyn arddangos ein hunain yn greadigol.”

Mae cyfrol gyntaf o farddoniaeth Kittie Belltree, Sliced Tongue and Pearl Cufflinks (Parthian, 2019) yn archwilio cysylltiadau chwâl yr hunan, teulu a chartref. Mae ei cherddi a’i hadolygiadau mewn ystod o gyfnodolion ac mae ei ffuglen fer wedi’i gyhoeddi mewn blodeugerdd gan Honno, Cut on the Bias (2010). Enillodd Kittie Wobr Gair Creadigol DAC 2020 ac mae wedi derbyn Bwrsariaeth Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Gwobr Menter a chanmoliaeth uchel yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Ryngwladol Cymru, Cystadleuaeth Gŵyl Farddoniaeth Penfro, Cystadleuaeth Barddoniaeth Camden a Lumen, a Gwobr Darllenwyr Orbis. Mae hi’n gweithio fel Tiwtor Arbenigol i fyfyrwyr niwro-ysbeidiol ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae hi hefyd yn dysgu ar y rhaglen Ysgrifennu Greadigol israddedig ac wrthi’n ddiwyd yn gorffen ei thraethawd ymchwil sy’n archwilio barddoniaeth a thrawma.

Yn ôl Sara Beer, Swyddog Cenedlaethol y Celfyddydau Perfformio a’r Gair Creadigol â Chelfyddydau Anabledd Cymru:

“Mae Geiriau ar Gynfas wedi bod yn gyfle gwych i aelodau DAC ddatblygu sgiliau newydd a chael amser i rannu a thrafod eu gwaith mewn awyrgylch gefnogol. Roedd maint a safon y gwaith a gafodd ei greu yn arbennig, ac rwy’n gobeithio mai dyma’r cyntaf o nifer o brosiectau ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru.”

Ceir isod gasgliad o farddoniaeth gan unigolion o Gymru a thu hwnt, sydd yn dathlu Cymru lenyddol, gynrychioladol a chynhwysol: