Dewislen
English
Cysylltwch

Gwaith Comisiwn i Awduron: Natur a’r amgylchedd er budd llesiant

Cyhoeddwyd Maw 22 Chw 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwaith Comisiwn i Awduron: Natur a’r amgylchedd er budd llesiant
Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan awduron a hwyluswyr creadigol i ddyfeisio a rhedeg prosiect ysgrifennu creadigol sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant.   

Rydym yn credu fod gan lenyddiaeth y grym i wella a thrawsnewid bywydau. Rydym oll yn ymwybodol fod awyr iach a threulio amser yn yr awyr agored yn llesol i’n llesiant emosiynol, a gall ymdrochi yn ein hamgylchedd naturiol ac ysgrifennu am ei ryfeddod fod o fudd emosiynol. Gyda’n gofidiau am yr argyfwng hinsawdd a’r pandemig yn cynyddu, mae nifer ohonom wedi troi at fyd natur gan fwynhau buddion ein hamgylchedd naturiol. 

Rydym felly yn awyddus i wahodd artistiaid i ddyfeisio prosiect sydd yn archwilio’r cysylltiad rhwng llenyddiaeth, llesiant, a’r amgylchedd naturiol. Mae 3 comisiwn werth £4,000 yr un ar gael. Gall hwyluswyr fynegi diddordeb yn unigol, mewn pâr, neu fel grŵp. Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd hefyd ar gael fel adnodd a all gael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiad preswyl neu ddibreswyl, yn ddibynnol ar argaeledd.   

Byddwn yn blaenoriaethu’r prosiectau fydd yn gadael gwaddol hir dymor, a bydd o leiaf un o’r comisiynau yn cael eu rhoddi i brosiect lle caiff y gweithgaredd ei chyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gennym ddiddordeb mawr mewn sefydlu prosiect yn ardal Llanystumdwy, gyda’r bwriad o gynnig cefnogaeth hirdymor i’w gynnal trwy ein cartref yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. 

Dyddiad cau i Fynegi Diddordeb: 12.00pm dydd Llun 21 Mawrth 2022 

Am ragor o fanylion, gan gynnwys sut i wneud cais, ewch i’r dudalen prosiect.