Dewislen
English
Cysylltwch

Hongian dail ‘Dail Pren’ i gofio Waldo Williams

Cyhoeddwyd Llu 10 Mai 2021 - Gan Cymdeithas Waldo
Hongian dail ‘Dail Pren’ i gofio Waldo Williams
I nodi 50 mlynedd ers marwolaeth y bardd a’r heddychwr Waldo Williams, mae Cymdeithas Waldo yn annog gosod llinell o waith Waldo Williams ar label a’i hongian fel deilen ar goeden ar 20 Mai 2021.

Ar y dyddiad hwnnw 50 mlynedd nôl y bu farw un o feirdd mwyaf Cymru’r ugeinfed ganrif, Waldo Williams. Roedd hefyd yn heddychwr, yn Grynwr ac yn genedlaetholwr o argyhoeddiad. Cafodd ei eni yn Hwlffordd. Dysgodd Gymraeg pan symudodd y teulu i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro yn 1911 lle roedd ei dad yn brifathro’r ysgol gynradd.   Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yr oedd yn teimlo mor gryf yn erbyn Rhyfel Corea nes iddo wrthod talu’r dreth incwm. Fe’i carcharwyd ar ddau achlysur oherwydd ei ddaliadau heddwch. Codwyd carreg goffa iddo ar y comin ger Mynachlog-ddu.Cyhoeddodd un gyfrol o farddoniaeth a’i galw yn ‘Dail Pren’. Dyna pam yr anogir gosod label yn cynnwys llinell o’i waith fel deilen ar goeden i gofio amdano.

Cyhoeddodd gyfrol o gerddi i blant hefyd ar y cyd ag E. Llwyd Williams, ‘Cerddi’r Plant’. Dyna pam yr anogir disgyblion ysgol cynradd i ddewis eu hoff linell o blith y cerddi hynny i’w hongian fel dail.

Dywedodd Eirian Wyn Lewis, Cadeirydd Cymdeithas Waldo,

“ fod llawer wedi’i drefnu eisoes eleni i gofnodi ei farwolaeth hanner can mlynedd nôl yn 1971 ac fe fydd y dail symbolaidd hyn yn ein dwyn yn nes at y syniadau sydd yn ei gerddi. Ma’ cymaint o linellau y gellir eu dewis sy’n drymlwythog o ystyr”.

Eisoes mae mwy o gyfrolau wedi’u hysgrifennu am Waldo na bron yr un bardd Cymraeg arall. Geiriau clo Alan Llwyd yn ei gofiant iddo, wrth nodi ei farwolaeth, oedd

“ Roedd enaid Waldo, bellach, yn un â’r goleuni”.

Ac yn ôl Emyr Llywelyn

“roedd hi wedi cymryd dwy fil o flynyddoedd o wareiddiad Cymraeg i greu dyn fel Waldo”.

Anogir caredigion llên ac edmygwyr Waldo ledled y wlad i gymryd rhan yn y dathliad hwn o fywyd Waldo ar Fai’r 20fed. Rhagwelir y bydd amrywiaeth eang o’i linellau wedi’u gosod ar labeli yn cyhwfan yn y gwynt ar goed ar draws Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan www.waldowilliams.com