Llenyddiaeth Cymru yn 2021
Yr Achos dros Rym Llenyddiaeth – Adroddiad Canol Tymor 2019-22
Ar gychwyn 2021, ar ôl blwyddyn heriol, llawn newid, roeddem yn hynod falch o rannu ein Hadroddiad Canol Tymor. Bwriad yr adroddiad yw arddangos sut y buom yn parhau i fynd ati i gyrraedd ein targedau a chyflawni’r nodau a osodwyd yn ein Cynllun Strategol uchelgeisiol, a lansiwyd ym mis Mai 2019.
Canolbwyntia’r adroddiad ar ein cynnydd a’n gwaith parhaus ar ein tri prif colofn gweithgaredd. Roedd 2021 hefyd yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu Llenyddiaeth Cymru, ac edrychwn ymlaen at barhau i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru gyda’n partneriaid a’r sector ehangach, gan eirioli yr achos dros rym llenyddiaeth.
I ddarllen ein Hadroddiad Canol Tymor 2019-22,ewch i : www.llenyddiaethcymru.org
Cynrychioli Cymru
Un o uchafbwyntiau 2021 oedd lansio Cynrychioli Cymru, rhaglen ddatblygu proffesiynol i awduron o liw, y gyntaf erioed o’i math yng Nghymru. Rhaglen 12 mis yw hon, sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n rhoi cyfleoedd datblygu i’r rheini sy’n awyddus i ysgrifennu’n broffesiynol yn y sector llenyddiaeth, drama ac ysgrifennu i’r sgrîn.
Mae’r grŵp o awduron eisoes hanner ffordd drwy eu blwyddyn, ac yn mwynhau gweithdai, sgyrsiau a mentora dan arweiniad awduron byd enwog.
Yn ddiweddar, fe lansiwyd galwad agored ar gyfer Cynrychioli Cymru #2, rhaglen ddatblygu proffesiynol ar gyfer awduron o gefndiroedd incwm isel. Mae’r alwad bellach wedi cau, a byddwn yn cyhoeddi’r grwp o awduron buddugol yn y gwanwyn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Prosiect Murluniau Awr Ddaear: Llenyddiaeth Cymru x WWF Cymru
Mae tair wal ar adeiladau mewn tair tref ar draws Cymru wedi cael eu gweddnewid yn ystod y flwyddyn, a hynny fel rhan o brosiect barddoniaeth a chelf stryd, ar y cyd rhwng plant ysgolion lleol, WWF Cymru a Llenyddiaeth Cymru i nodi Awr Ddaear 2021. Mae Llenyddiaeth Cymru a’r elusen amgylcheddol, WWF Cymru, wedi bod yn gweithio gyda disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Dewi Sant, Y Rhyl; Ysgol Gynradd Aberteifi ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci i ysgrifennu cerddi sydd wedi cael eu trawsnewid yn waith celf cyhoeddus gan yr artist stryd Bryce Davies o Peaceful Progress. Cafodd y gweithdai barddoniaeth eu hwyluso gan Fardd Plant Cymru 2019-2021, Gruffudd Owen. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Casi Wyn yw Bardd Plant Cymru 2021-2023
Casi Wyn yw’r Bardd Plant Cymru Newydd Mae dwy flynedd o gerddi, cerddoriaeth a chreadigrwydd ar droed i blant dros Gymru gyfan wrth i’r gantores, cyfansoddwraig ac awdur o ardal Bangor, Casi Wyn, gael ei phenodi yn Fardd Plant Cymru ar gyfer 2021-2023.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar 7 Hydref 2021, sef Diwrnod Barddoniaeth – dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol. Mae prosiect Bardd Plant Cymru yn cyfrannu at feithrin cenhedlaeth o ysgrifenwyr a darllenwyr mwy creadigol, amrywiol a iach, gan weithio’n bennaf â phlant rhwng 5-13 oed. Penodwyd Casi Wyn i’r rôl yn dilyn galwad agored lwyddiannus ym mis Mai 2021.
Gallwch wrando ar gerdd cyntaf Casi fel Bardd Plant, Cydio’n ein Breuddwydion, yma.
Connor Allen yw’r Children’s Laureate Wales 2021-2023
Connor Allen yw’r Children’s Laureate Wales Newydd Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd barddoniaeth a pherfformiad yn cynnau dychymyg plant wrth i’r bardd a’r artist amlddisgyblaethol o Gasnewydd, Connor Allen, ymgymryd â rôl Children’s Laureate Wales ar gyfer 2021-2023.
Penodwyd Connor yn dilyn galwad lwyddiannus ym mis Mai 2021, ac mae Llenyddiaeth Cymru wrth ei fodd yn croesawu artist mor dalentog a deinamig i’r swydd lysgenhadol hon.
Cyhoeddwyd penodiad Connor ar Ddiwrnod Barddoniaeth 2021, dathliad blynyddol ledled y DU sy’n annog pawb i fwynhau, darganfod a rhannu barddoniaeth. Mae nodau’r dathliad yn adlewyrchu gweledigaeth Connor yn hapus am y ddwy flynedd nesaf, wrth iddo weithio tuag at wneud barddoniaeth yn hygyrch, yn hwyl, ac yn berthnasol i blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Gallwch wrando ar gerdd cyntaf Connor fel Children’s Laureate, Knock Knock, yma.
Llenyddiaeth Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn gwobrwyo £10,000 i awduron am gomisiynau digidol
Ar gychwyn y flwyddyn, fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, enwau’r pum awdur fyddai’n derbyn cyfran o gronfa comisiwn gwerth £10,000. Gan ganolbwyntio ar lenyddiaeth a llesiant, roedd cynnwys a gweithgareddau’r pum prosiect hyn yn elwa awduron, darllenwyr a chynulleidfaoedd creadigol yn ystod y cyfnod ansicr hwn – yn benodol, unigolion o gefndiroedd incwm isel.
Yr awduron llwyddianus oedd Seren Haf Grime, Rufus Mufasa, clare e. potter, Dominika Rau a Hammad Rind. Roedd y comisiynau yn cynnwys gweithdai gydag unigolion o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn Nhrelluest sy’n wynebu heriau iechyd meddwl; gweithio gyda mamau yn Sir Gaerfyrddin drwy gofnodi eu straeon a’u profiadau yn ystod y pandemig; gweithdai gydag unigolion ifanc sy’n byw â chanser eilradd; prosiect yn cefnogi pobl ifanc a mamau ifanc digartref ar draws Cymru; a phrosiect â cheiswyr lloches a ffoaduriaid gyda chymorth y Congolese Development Project.
I ddarllen y stori’n llawn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Cyrsiau Digidol Tŷ Newydd
Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru raglen newydd sbon o gyrsiau blasu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i’ch ysbrydoli dros fisoedd y gaeaf.
Bydd ein drysau’n agor i ymwelwyr unwaith eto yn y gwanwyn, ond yn y cyfamser, cewch flas o’r math o gyrsiau ysgrifennu creadigol a gynigir gyda’n rhaglen rithiol newydd. Nod Llenyddiaeth Cymru yw grymuso, gwella a chyfoethogi bywydau trwy ein gweithgareddau, a bydd y rhaglen amrywiol hon yn ysbrydoli awduron o bob cefndir a phrofiad i brofi grym ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth.
Bydd yr wyth cwrs rhithiol byr yn digwydd dros ginio ar brynhawniau Gwener yn y flwyddyn newydd, ac yn mynd ar wibdaith o amgylch sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn eich annog i gychwyn, neu i barhau, gyda’ch ysgrifennu creadigol. Rydym yn croesawu dechreuwyr llwyr sydd yn chwilfrydig am y grefft o ysgrifennu i archebu lle ac i gael blas ar yr hyn sydd yn bosib, ac mae’r cyrsiau hefyd yn addas i awduron sydd â peth profiad yn barod.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021
Mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru ym mis Awst eleni, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai tu ôl i’r awyr (Y Lolfa), nofel Megan Angharad Hunter ddaeth i’r brig yn y categori ffuglen, yn ogystal â mynd ymlaen i gipio teitl Llyfr y Flwyddyn 2021. Yn ystod y rhaglenni, cyhoeddwyd mai O.M.: Cofiant Syr O. M. Edwards gan Hazel Walford Davies oedd yn cipio Gwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni. Ar rifyn arbennig o’r Arts Show ar BBC Radio Wales ar 30 Gorffennaf, cyhoeddwyd mai prif enillydd y Wobr Saesneg eleni, ynghyd â Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Gwobr Barn y Bobl y Wales Arts Review, oedd Catrin Kean gyda’i nofel Salt (Gwasg Gomer).
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Cyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020
I ddathlu fod ein tîm pêl-droed cenedlaethol wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020, daeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru ynghyd i lansio Cystadleuaeth Farddoniaeth ecsgliwsif Cymru Ewro 2020 yn ôl ym mis Ebrill 2021. Roedd y gystadleuaeth yn gwahodd plant Cymru i gyflwyno cerddi ar y thema hunaniaeth, am y cyfle i ennill llu o wobrau gwych.
Daeth 495 o geisiadau i law, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai’r ddwy fardd buddugol oedd Nansi Bennett a Martha Appleby. Mae’n werth i chi ddarllen eu cerddi!
Cronfa Ysbrydoli Cymunedau
Mae Cronfa Ysbrydoli Cymunedau (sy’n ddatblygiad o gronfa Awduron ar Daith) yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 50% o’r ffioedd sy’n cael eu talu i awduron ar gyfer digwyddiadau llenyddol megis sgyrsiau, darlithoedd, gweithdai ysgrifennu creadigol a mwy. Gall y digwyddiadau hyn gael eu cynnal unrhyw le yng Nghymru, mewn neuaddau pentref, tafarndai, llyfrgelloedd, ysgolion, clybiau ieuenctid – neu hyd yn oed ar lwyfannau digidol ar gyfer grwpiau sy’n cwrdd ar-lein. Caiff y cynllun ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Llenyddiaeth Cymru am i ragor o bobl yng Nghymru brofi gwefr llenyddiaeth. Rydym ni yn credu fod gan lenyddiaeth, yn ei holl amrywiaeth, y grym i gysylltu cymunedau â’i gilydd a rhoi cysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.
Mae gwybodaeth bellach am gynllun nawdd Cronfa Ysbrydoli Cymunedau ar gael yma.
Rhestr Awduron Cymru
Ym mis Tachwedd eleni, fe lansiodd Llenyddiaeth Cymru adnodd digidol arbennig. Mae Rhestr Awduron Cymru yn gatalog ar-lein o ystod eang o awduron Cymru. Mae’n rhan ganolog o rwydweithiau digidol Llenyddiaeth Cymru, gyda’r nod o arddangos talent llenyddol o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae’r Rhestr yn esblygiad o gyfeiriadur blaenorol, ac yn wasanaeth rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ac awduron.
Mae modd i unrhyw awdur lwytho eu proffil ar y Rhestr, boed yn egin awduron neu’n awduron profiadol, yn ogystal â hwyluswyr ac ymarferwyr creadigol.
Cliciwch yma i ychwanegu eich proffil. Yn drefnwyr digwyddiadau, cyhoeddwyr, darllenwyr a chynulleidfaoedd creadigol, ewch draw i Rhestr Awduron Cymru i brofi rhychwant talentau llenyddol Cymru.
Eloise Williams yn dechrau preswyliad yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail
Mae Eloise Williams, yr awdur plant a’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed wedi cychwyn ar antur gyffrous yn ystod y tymor ysgol hwn, a hynny fel awdur preswyl Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf. Fel rhan o’r preswyliad blwyddyn o hyd, bydd Eloise yn ymweld â’r ysgol bob wythnos o’r tymor i gynnal gweithdai gyda disgyblion a’u hysbrydoli i ddarllen ac ysgrifennu eu straeon creadigol eu hunain.
Mae Do You Get Me? yn brosiect a gaiff ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Campws Cyntaf, rhaglen gan Brifysgol Caerdydd i ennyn diddordeb pobl ifanc yn ne ddwyrain Cymru mewn addysg uwch a lleihau’r rhwystrau i fyd addysg. Bydd Eloise Williams yn gweithio gyda phob disgybl ym Mlwyddyn 8, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, yn ogystal â grwpiau eraill o bobl ifanc o Gyfnod Allweddol 3, gan gynnwys disgyblion sydd mewn gofal neu sy’n ofalwyr ifanc.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Cyhoeddi bardd preswyl newydd i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Wrth i’r byd nodi Diwrnod y Ddaear 2021, fe gyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, mai Taylor Edmonds fydd eu bardd preswyl newydd.
Taylor, o Benarth, yw ail fardd preswyl y comisiynydd, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ar ôl i Rufus Mufasa gwblhau ei rôl yn 2019.
Bydd ei chydweithrediad blwyddyn gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gweld y bardd ifanc yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfleu nodau’r Ddeddf, un ohonynt yw Cymru sydd â diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus. Thema eleni yw ‘Cymru i’r Byd’ – sydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a rôl Cymru yn y byd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Dathlu Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd gyda cherdd gan blant Cymru
Yn ystod tymor ysgol haf 2021 bu’r beirdd a’r awduron Anni Llŷn, Taylor Edmonds, Gruffudd Owen ac Eloise Williams yn cynnal gweithdai creadigol gyda disgyblion o 24 ysgol gynradd o Fôn i Fynwy er mwyn creu cerdd arbennig ar gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd.
Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru gomisiwn gan Senedd Cymru i gydlynu prosiect creadigol Dy Lais – Your Voice gyda phlant a phobl ifanc fel rhan o ddathliadau Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd. Bydd y gerdd a ddeilliodd o’r prosiect yn cael ei darllen am y tro cyntaf gan gyn aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru fel rhan o Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd ddydd Iau 14 Hydref ym Mae Caerdydd.
I darllen y gerdd, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Llenyddiaeth Cymru yn penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd newydd i’r Bwrdd Rheoli
Yn ystod y flwyddyn a fu, fe etholwyd Dr Cathryn Charnell-White a Natalie Jerome i wasanaethu fel Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru. Mae Cathryn yn olynnu Dr Kate North, ac mae Natalie yn olynnu Elizabeth George, dwy a fu’n cyfrannu’n werthfawr at ddatblygu gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru yn ystod eu tymhorau ar y Bwrdd Rheoli.
Am ragor o wybodaeth am ein Bwrdd Rheoli, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Anrhydedd blwch post i Eloise Williams
I nodi Diwrnod y Llyfr 2021 (dydd Iau 4 Mawrth), fe ddadorchuddiodd y Post Brenhinol bum blwch post arbennig ledled y DU, gan anrhydeddu awduron a darlunwyr sydd wedi bod yn gwneud gwaith rhyfeddol trwy ddefnyddio llenyddiaeth i helpu i ddiddanu plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod clo – un ohonynt oedd i anrhydeddu Eloise Williams, ein Children’s Laureate Wales 2019-2021.
I ddarllen y stori’n llawn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Plethu/Weave
Prosiect ar y cyd rhwng Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru yw cywaith traws-gelfyddyd barddoniaeth a dawns Plethu/Weave. Cychwynodd y prosiect yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ac y mae wedi parhau yn 2021, gyda chomisiynau gan Llywodraeth Cymru fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Cymru yn yr Almaen. Mae’r casgliad yn cynnig cip olwg unigryw ar ddigwyddiadau a themau y deuddeg mis diwethaf, ac wedi cynnig ffordd gwbl newydd o gydweithio i ddathlu diwylliant llenyddol Cymru.
I fwynhau holl ffilmiau Plethu/Weave, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org
Mae Llenyddiaeth Cymru yn edrych ymlaen at rannu’r canlynol, a mwy, yn ystod 2022:
– Cwrs Stori i Bawb yn Nhŷ Newydd (mae modd ymgeisio am le rhad ac am ddim, yma)
– Lansio ein Cynllun Strategol 2022-2025
– Cyhoeddi grŵp awduron diweddaraf rhaglen Cynrychioli Cymru
– Penodi Bardd Cenedlaethol Cymru newydd
– Ail-agor cyrsiau ac encilion wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
– Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
– Parhau i gynnig rhagor o gyfleoedd i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru