Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobrau Tir na n-Og 2021

Cyhoeddwyd Iau 20 Mai 2021 - Gan Cyngor Llyfrau Cymru
Gwobrau Tir na n-Og 2021
Straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch mewn sefyllfaoedd heriol ond gwahanol iawn sydd wedi cipio’r prif wobrau ar gyfer llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yng Ngwobrau Tir na n-Og 2021.

Casia Wiliam sy’n fuddugol yn y categori cynradd am ei nofel Sw Sara Mai (Y Lolfa), gyda #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) yn dod i’r brig yn y categori uwchradd. Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy ennill Gwobr Tir na n-Og.

Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr ar raglen Heno ar S4C am 19:00 nos Iau, 20 Mai, ac mae’r awduron yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un yn ogystal â cherdd gomisiwn gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Mae Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu’r gorau o blith llyfrau i blant ac oedolion ifanc a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Fe’u trefnir yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

Enillydd y categori cynradd

Stori gyfoes yw Sw Sara Mai am ferch tua naw oed o’r enw Sara Mai sy’n byw yn sw ei rhieni ac sy’n ei chael hi’n haws i ddeall ymddygiad creaduriaid rhyfeddol y lle nag ymddygiad merched eraill ei dosbarth ysgol.

Wrth drafod y llyfr, dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, T Hywel James:

“Dyma nofel sydd yn ymdrin â phwnc cyfoes gan ddelio â bwlio a rhagfarn yn erbyn pobl o gefndir neu dras wahanol. Mae’n gyfrol sydd yn llenwi bwlch pwysig yn y ddarpariaeth ar gyfer yr oedran ac yn gam yn y cyfeiriad cywir er mwyn adlewyrchu yn well y Gymru amrywiol a chynhwysol o’n cwmpas.”

Dywedodd Casia Wiliam, sy’n byw yng Nghaernarfon:

“Dwi wedi gwirioni! Dwi’n darllen gwaith gan awduron sydd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og ers ’mod i’n ddim o beth, a dwi’n methu coelio ’mod i yn yr un cae â nhw! Rydw i hefyd yn hynod o falch o Sara Mai – hi ydi’r enillydd go iawn. Mae mor bwysig bod Cymry bach sydd yn ddu neu’n hil-gymysg yn gweld eu hunain yn brif gymeriadau mewn llyfrau Cymraeg, felly mae’n golygu cymaint i mi fod y llyfr wedi derbyn y gydnabyddiaeth arbennig yma.”

Cafodd y ddau lyfr arall ar y rhestr fer Gymraeg yn y categori cynradd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, sef Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa) lle mae angen dod o hyd i’r ddraig fach, Boc, sy’n cuddio ar bob tudalen, a Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol) lle caiff plentyn ei gyflwyno i ryfeddodau byd natur.

Enillydd y categori uwchradd

Nofel ar gyfer plant yn eu harddegau hŷn a enillodd y categori uwchradd. Mae #helynt gan Rebecca Roberts yn adrodd stori merch yn ei harddegau a’r hyn sydd yn digwydd iddi ar ôl colli’r bws i’r ysgol un bore – digwyddiad digon cyffredin ond un sydd yn newid cwrs ei bywyd.

Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, T Hywel James:

“Dyma stori sydd yn cydio o’r dechrau i’r diwedd gan gyfleu rhywfaint o realiti effaith tlodi a thrais yn y cartref ar berson ifanc yn y Gymru cyfoes. Mae portread sensitif a chynnil iawn o brif gymeriad gydag anabledd wedi ei gynnwys yn grefftus iawn yn y stori – ond merch ddewr, nid ei hanabledd, yw ffocws y dweud. Fel panel credwn fod y nofel hon yn esiampl ardderchog, ‘clasurol’ hyd yn oed, o genre llenyddiaeth i’r arddegau – ac nid camp hawdd yw cyflawni hynny.”

Dywedodd Rebecca Roberts, sy’n byw ym Mhrestatyn:

“Mae #helynt yn stori am garu dy hun, am fod yn wahanol ac yn falch o’r ffaith – neges dwi’n meddwl mae angen i bobl ifanc ei chlywed yn aml. Mae Rachel mor agos at fy nghalon, felly roeddwn i wrth fy modd o glywed bod y beirniaid yn teimlo’r un fath â minnau. Mae wir yn anrhydedd ac yn uchafbwynt anhygoel. Mawr yw fy niolch i bawb a helpodd i ddwyn #helynt i’r byd.”

Roedd canmol hefyd ar y ddwy nofel arall ar y rhestr fer uwchradd Gymraeg, sef Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa), am lofruddiaeth Gwenno berffaith, brydferth, glyfar ym Methesda, ac Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch), am brofiadau dirdynnol caethferch ifanc ar blanhigfa teulu’r Penrhyn yn Jamaica a morwyn sy’n gweithio yng Nghastell Penrhyn yng Ngwynedd.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau:

“Llongyfarchiadau gwresog i awduron a chyhoeddwyr y llyfrau buddugol, a’r holl deitlau gwych eraill a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Nid tasg hawdd oedd i’r beirniaid ddewis dau enillydd o blith y cyfrolau rhagorol a ddaeth i law yn y categorïau cynradd ac uwchradd Cymraeg, ac mae hynny’n dyst i’r cyfoeth o dalent sydd gennym ar draws pob agwedd o’r sector llyfrau yng Nghymru.”

Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru:

“Rydym wrth ein bodd yn noddi gwobrau uchel eu bri Tir na n-Og unwaith eto eleni, gan helpu plant a phobl ifanc i ganfod profiadau darllen newydd sy’n adlewyrchu bywyd drwy lens Gymreig. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr ar eu llwyddiant arbennig ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o ddod â’r llyfrau gwych yma i’n silffoedd.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Helgard Krause:

“Mae Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers bron i hanner canrif bellach, gan gynnig llwyfan i ddathlu a hyrwyddo doniau awduron a darlunwyr sy’n creu deunydd unigryw yn Gymraeg. Diolch o galon i’r rheiny sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni ac i bawb sy’n creu cynnwys rhagorol i’n hysbrydoli, ein haddysgu a’n diddanu fel darllenwyr yn ystod blwyddyn eithriadol o heriol.”

Caiff enillydd rhestr fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ei ddatgelu ar raglen y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 21 Mai 2021. Mae tri theitl ar y rhestr fer sef Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth (Orion), The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press), a The Quilt gan Valériane Leblond (Y Lolfa).

Mae holl lyfrau Gwobrau Tir na n-Og ar gael yn eich siop lyfrau neu eich llyfrgell leol.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma.