Ymunwch â’r awdur poblogaidd Meilyr Siôn mewn gweithdy ysgrifennu creadigol ysgafn a hwyliog i bobl ifanc. Bydd Meilyr yn canolbwyntio ar ddatblygu cymeriadau, defnyddio iaith ddisgrifiadol, sut i wneud cymal ysgrifenedig i swnio’n gyffrous a strwythur plot. Bydd y rheiny sy’n dymuno cymryd rhan yn cael eu rhannu’n grwpiau fel y gallant ffurfio ac ysgrifennu stori fer. Wedi gwneud hyn bydd y cyfle ganddynt i actio eu darnau ysgrifenedig ac yna bydd trafodaeth fer i drafod yr hyn aeth yn dda a’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn gwella’r darn (os unrhyw beth o gwbl).

Bydd Meilyr hefyd yn darllen rhan o’i nofel Cysgod y Darian (Gwasg Gomer), i’w helpu nhw gyda’u syniadau a’u sgiliau ysgrifennu ac yna bydd sesiwn fer o holi ac ateb.

Gyda chefnogaeth gan Gwasg Gomer