Am lond lle o hwyl i blant drwy’r wythnos, tyrd draw i stondin Gŵyl Llên Plant.

Lleolir Gŵyl Llên Plant yn ardal Crefft yn y Bae. Mae’r gweithgareddau i gyd yn rhad ac am ddim.

Trefnir gan yr Eisteddfod.

Mae gweithgareddau Gŵyl Llên Plant yn rhan o’r Pentref Llên a noddir gan Brifysgol Cymru. Mae digonedd o ddigwyddiadau llenyddol, hwyliog wedi’i drefnu gan gynnwys rhain:

Dydd Sadwrn 4 Awst

14:00 Gweithdy Llên LEGO

15:00 Bardd Plant Cymru: Casia Wiliam

16:00-16:40 Stori cyn troi: Peppa a’i Hesgidiau Aur

Dydd Sul 5 Awst

16:00-16:40 Stori cyn troi: Stori fawr Peppa Fach

Dydd Llun 6 Awst

13:00 Comedi@Gŵyl Llên Plant: Gweithdy sgwennu jôcs

17:00 Stori Cyn Troi: Matilda gyda Gareth Potter

Dydd Mawrth 7 Awst

11:00 Canolfan Peniarth: Cymeriadau difyr gyda Manon Steffan Ros

13:00 Parti Lansio Miss Prytherch gyda Mererid Hopwood

15:00 Gweithdy Llên LEGO

17:00 Stori Cyn Troi: Yr CMM gyda Gareth Potter

Dydd Mercher 8 Awst

12:00 Bwch yng Nghwmni Anni Llŷn

13:00 Comedi@Gŵyl Llên Plant

14:00 Sophie a’r Drws Tylwyth Teg: Gweithdy a Sesiwn stori

15:00 Straeon Nos Da i Bob Rebel o Ferch gyda Lowri Morgan

17:00 Stori Cyn Troi: Helfa Fawr y Deinasoriaid gyda Anwen Carlisle

Dydd Iau 9 Awst

11:00 Canolfan Peniarth: Teithio yn ôl i’r Oesoedd Canol gyda Mererid Hopwood

12:00 Deian a Loli a’r Bai ar gam. Gweithdy creu cymeriad gyda’r awdur Angharad Elen a’r artist Nest Llwyd Owen

13:00 Na Nel! Un Tro

17:00 Stori Cyn Troi: Syr Deilen Lili gyda Aneirin Karadog

Dydd Gwener 10 Awst

12:00 Slot Y Selar: Sgiliau sgwennu Zine

13:00 Comedi@Gŵyl Llên Plant: Gweithdy Sgwennu Jôcs

14:00 Jo a Môr Ladron y Drws Antur: Gweithdy a Sesiwn Stori

17:00 Stori Cyn Troi: Y Teigr a ddaeth i de gyda Anwen Carlisle

Sadwrn 11 Awst

16:00-16:40 Stori Cyn Troi: Na Nel! Gyda Meleri Wyn Jones

Er mwyn gweld yr amserlen lawn o’r wythnos, cliciwch ar y ddolen yma.